Neidio i'r prif gynnwy

Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans y Gwasanaethau Cludo Difrys

Pwy yw Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng?

Mae’r Cynorthwywyr Gofal hyn yn cludo cleifion o’u cartrefi i apwyntiadau mewn adrannau cleifion allanol.

Mae Criwiau Gwely’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn cludo cleifion sydd wedi eu rhyddhau o’r ysbyty i’w cartref neu gartref nyrsio ar ôl bod yn yr ysbyty.

Ai gweithio yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yw’r yrfa iawn imi?

Mae’r Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn darparu lefel uchel o ofal i gleifion ac yn aml maent yn cludo’r un cleifion i’r ysbyty neu i’w hapwyntiadau (megis cleifion sy’n derbyn dialysis neu driniaeth i ganser er enghraifft).  Mae modd iddynt feithrin perthynas â’r cleifion hyn er mwyn gwneud eu profiad mor gadarnhaol â phosibl. Felly os ydych chi’n mwynhau gyrru, yn dda am feithrin perthnasau ac â sgiliau cyfathrebu rhagorol, gall gyrfa yn y Gwasanaethau Gofal Cleifion fod yn addas ichi.

Beth mae Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn ei wneud?

Mae Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn cludo pobl na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd eu bod naill ai’n rhy sâl neu’n anabl, hen neu’n fregus. Maent yn eu cludo i’w hapwyntiadau mewn clinigau cleifion allanol ac ysbytai ac yn mynd â nhw adref.

Ynghyd â gyrru, mae’n rhaid i staff yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng godi a symud cleifion i mewn i gerbydau sydd wedi eu haddasu’n arbennig ac allan ohonynt. Maent yn sicrhau bod cleifion yn ddiogel ac yn gyfforddus yn ystod eu taith, a’u bod yn cyrraedd eu hapwyntiad yn brydlon. Fel arfer mae staff yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn cwmpasu ardal  benodol ac felly mae’n bosibl y byddant yn gweld yr un cleifion yn rheolaidd.   Mae rhai staff yn y Gwasanaethau yn gweithio ar eu pen eu hunain, ond mae’r mwyafrif yn gweithio mewn criw.

Ble mae staff yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn gweithio?

Mae Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans wedi eu lleoli mewn gorsaf ambiwlans neu ysbyty.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i staff yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Yn aml bydd Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn symud ymlaen i rolau yn adran y Gwasanaethau Meddygol Brys, megis Cynorthwyydd Gofal Brys neu Dechnegydd Meddygol Brys.  Fel arall, bydd rhai Cynorthwywyr Gofal Ambiwlans yn y Gwasanaethau Cludo Cleifion Di-argyfwng yn symud ymlaen i rolau Arweinwyr Timau Gweithredol.

Faint mae staff Gwasanaethau Gofal Cleifion yn ei ennill?

Band cyflog 3, bydd rhai patrymau sifft hefyd yn gymwys am daliadau ychwanegol oherwydd oriau anghymdeithasol. Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.