Neidio i'r prif gynnwy

Anfonwyr meddygol brys

Beth yw Anfonwr Meddygol Brys?

Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn anfon yr adnoddau i helpu claf ar ôl galwad brys 999.

Ai Anfonwr Meddygol Brys yw’r yrfa iawn imi?

Mae’n rhaid i Anfonwyr Meddygol Brys aros yn ddigynnwrf o dan bwysau a gwneud penderfyniadau yn gyflym er mwyn sicrhau y caiff y cymorth cywir ei anfon at glaf. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Sgiliau dadansoddi da a’r gallu i wneud penderfyniadau doeth

  • Y gallu i fod yn ddigynnwrf o dan bwysau

  • Y gallu i fod yn hyblyg

  • Sgiliau TG da

Beth mae Anfonwyr Meddygol Brys yn ei wneud?

Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn penderfynu pa fath o ymateb sydd ei angen ar glaf, megis ambiwlans, car ymateb cyflym neu hofrennydd. Maent yn defnyddio system gyfrifiadurol er mwyn darganfod pa gerbydau sydd gerllaw, ac mae’n rhaid iddynt wneud y defnydd gorau o adnoddau i gynorthwyo’r claf.

Maent yn gweithio mewn sifftiau, gan gynnwys yn y nos ac ar y penwythnos a gwyliau banc, felly mae’n rhaid iddynt fod yn hyblyg.

Ble mae Anfonwyr Meddygol Brys yn gweithio?

Mae Anfonwyr Meddygol Brys yn gweithio yn yr ystafell reoli ambiwlansys.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Anfonwyr Meddygol Brys gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae cyfleoedd i gamu ymlaen i rôl Arweinydd Sifftiau neu Reolwr Rheolaeth ar Ddyletswydd.  Mae rhai Anfonwyr Meddygol Brys hefyd yn camu ymlaen i rolau gweithredol, naill ai’n Gynorthwywyr Gofal Brys neu’n Dechnegwyr Meddygol Brys.

Faint mae Anfonwyr Meddygol Brys yn ei ennill?

Band cyflog 3 - Ewch i’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodaeth.

Sut y galla i ddod yn Anfonwyr Meddygol Brys?

Caiff pob swydd yn Ymddiriedaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei hysbysebu ar wefan NHS Jobs, felly gallwch chi wneud cais pan gaiff swydd ei hysbysebu.  Byddai angen addysg o safon resymol arnoch ar lefel TGAU (neu gymwysterau cyfwerth neu brofiad)), ynghyd â sgiliau TG da a phrofiad gweinyddol.

Dolenni defnyddiol:

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru