Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio oedolion

Beth yw nyrsio oedolion?

Mae nyrs oedolion yn gofalu am bobl sy’n sâl, yn anabl ac yn marw yn ogystal â hyrwyddo iechyd ymysg y boblogaeth yn gyffredinol.  Eu nod yw gwella ansawdd bywyd yr unigolion y maent yn gofalu amdanynt.

Ai nyrsio oedolion yw’r yrfa iawn i mi?

Fel nyrs oedolion bydd angen i chi fod yn:

  • Ofalgar
  • Yn dda gyda phobl
  • Yn gallu gweithio yn rhan o dîm amlddisgyblaethol (MDT) yn ogystal â chael y gallu i ddefnyddio eich ysgogiad eich hunan
  • Diddordeb mewn anatomeg a ffisioleg
  • Y gallu i ddelio gyda sefyllfaoedd trallodus

Beth mae nyrsys oedolion yn ei wneud?

Me nyrsys oedolion yn gofalu am gleifion sy’n oedolion o bob oed sy’n dioddef o un neu fwy o gyflyrau iechyd corfforol hir neu byr-dymor. Gall yr amodau/sefyllfaoedd hyn gynnwys:

  • Cleifion sydd wedi cael llawdriniaeth ddewisol neu frys
  • Problemau cardiaidd
  • Problemau anadlu
  • Salwch cronig megis clefyd siwgwr neu lid y cymalau
  • Problemau niwrolegol

Bydd y nyrs yn asesu’r claf, cynllun gofal y claf a darparu’r gofal sydd ei angen, tra’n gweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol (MDT).

Ble mae nyrsys oedolion yn gweithio?

Mae nyrsys oedolion yn cael y cyfle i weithio mewn nifer o lefydd, gan gynnwys:

  • Ysbytai
  • Gweithleoedd (nyrs iechyd galwedigaethol)
  • Meddygfeydd (nyrs meddygfa)
  • Y Gymuned (nyrs gymunedol)
  • Carchardai

Faint mae nyrsys oedolion yn gallu ei ennill?

Yn y GIG, ar lefel mynediad mae nyrs yn dechrau ar fand 5; gweler ein adran Tâl a Buddion am fwy o wybodaeth.

Pa gyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael i nyrsys oedolion?

Unwaith y byddwch wedi cymhwyso ac wedi ennill profiad clinigol mae nifer o opsiynau cyflogaeth ar gael, gan gynnwys:

  • Nyrs ymgynghorol mewn maes arbenigol
  • Darlithydd mewn prifysgol
  • Nyrs ymchwil
  • Ymarferydd nyrsio uwch
  • Nyrs rheoli uwch

Sut mae modd i mi fod yn nyrs oedolion?

Oes angen gradd arna i? Oes.  Os yr ydych am weithio fel nyrs oedolion, bydd angen i chi gwlbhau cwrs wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ble galla i hyfforddi yng Nghymru?

Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth.

Oes cyllid ar gael? Oes, i gael rhagor o wybodaeth am gyllid sydd ar gael ac i ddarganfod os yr ydych yn gymwys ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwobreuo Myfyrwyr.
Sut ydw i i’n cael profiad? I gael gwybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn GIG Cymru ewch i’n hadran Gwaith.
Sut mae modd ceisio am swydd? Mae pob swydd wag ar gyfer GIG Cymru yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs.  Ewch i’n hadran Gwaith am ragor o wybodaeth.

Dolenni defnydddiol: