Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Newydd-anedig

Ai nyrsio newydd-anedig yw’r yrfa iawn imi?

Er mwyn bod yn nyrs y newydd-anedig, bydd rhaid eich bod yn nyrs plant gofrestredig, nyrs oedolion neu fydwraig.

Fel nyrs y newydd-anedig, bydd rhaid ichi fod yn hynod o drefnus a hyblyg. Byddwch yn gofalu am fabanod sydd ag ystod eang o anghenion iechyd a gall eu cyflyrau newid yn gyflym iawn. Oherwydd hyn, mae’r gallu i flaenoriaethu yn effeithiol yn hollbwysig.

Rhaid i nyrsys y newydd-anedig fod yn:

  • Hynod o sylwgar
  • Hyderus ac â’r gallu i gymryd cyfrifoldeb dros sut orau i fwrw ymlaen a pha driniaeth sydd fwyaf priodol
  • Cyfathrebwyr da ac â’r gallu i fod yn empathig a chydymdeimlo â rhieni ac aelodau eraill o’r teulu
  • Meddu ar ddiddordeb mewn anghenion ffisiolegol a seicolegol babanod newydd-anedig a dealltwriaeth ohonynt
  • Cymwys i weithio mewn maes hynod o dechnegol

Beth mae nyrs y newydd-anedig yn ei wneud?

Mae nyrsys y newydd-anedig wedi derbyn llawer iawn o hyfforddiant er mwyn gofalu am fabanod sydd â phroblemau penodol a all beryglu bywyd. Maent yn rhan hanfodol o’r tîm amlddisgyblaethol ac yn sicrhau y darperir y driniaeth briodol yn ddi-oed gan gydweithwyr. Maent hefyd yn ymgymryd â thriniaethau arbenigol megis arllwysiad yn y gwythiennau, samplo gwaed a gweinyddu ocsigen.

Mae gan nyrsys y newydd-anedig rôl bwysig wrth gefnogi rhieni babanod ar adeg pan fyddant dan straen ac yn bryderus. Maent hefyd yn annog rhieni i gydio yn yr awenau wrth ofalu am eu babi.

Ymhle mae nyrsys y newydd-anedig yn gweithio?

Mae tri chategori o unedau newydd-anedig yng Nghymru: uned gofal dwys y newydd-anedig, uned leol y newydd-anedig ac uned gofal arbenigol. O bryd i’w gilydd, caiff babanod eu hanfon o unedau sy’n darparu gofal dibyniaeth uchel a gofal arbenigol, i unedau gofal dwys mwy er mwyn derbyn gofal mwy dwys ac arbenigol neu driniaeth lawfeddygol.

Dolenni defnyddiol: