Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Mewn Practis Cyffredinol

Ai nyrsio mewn practis cyffredinol yw’r yrfa iawn i mi?

I fod yn nyrs ardal, bydd angen i chi fod yn oedolyn cofrestredig, plantanabledd dysgu neu nyrs iechyd meddwl.

Gan mai y nyrs sy'n gyfrifol am y gofal a ddarperir yn y practis, mae angen i nyrsys practis cyffredinol arddangos sgiliau meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a’r gallu i  reoli cleifion. Bydd cwmpas cyffredinol eu rôl yn dibynnu ar anghenion y cyflogwr a'r hyfforddiant ac addysg sydd ei angen yn adlewyrchu hyn. Er enghraifft, efallai y bydd cyflogwr angen i nyrs bractis uwch gyda hawliau presgripsiynu annibynnol i gefnogi meysydd iechyd fel atal genhedlu a rheoli cyflyrau hir dymor fel asthma a chlefyd siwgr.

O ddydd i ddydd mae angen i nyrsys practis cyffredinol  ddefnyddio amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys:

  • gwrando a chyfathrebu
  • datrys problemau
  • gwneud penderfyniadau doeth
  • cynnig cyngor

Beth mae nyrs practis cyffredinol yn ei wneud?

Mae’r rôl yn un amrywiol:

Mae nyrs practis iau (band 5) yn ymgymryd â dyletswyddau ystafell driniaeth (gofal clwyfau, tynnu gwaed, dyfrhau glust, monitro pwysedd gwaed) a bydd yn ennill sgiliau mewn imiwneiddiadau teithio plant ac a sytoleg serfigol.

Bydd nyrs band 6 ymgorffori'r holl sgiliau blaenorol, ond bydd yn ymgymryd â chlinigau rhannu gofal gyda chefnogaeth y meddyg teulu; h.y. rheoli clefydau cronig megis clefyd siwgr, gofal anadlol ac epilepsi. Yna, efallai y bydd rhai nyrsys yn gwella eu sgiliau gan ymgymryd â modiwlau diploma mewn rheoli clefydau cronig neu fân salwch.

Bydd nyrs band 7 yn ymgymryd â chlinigau a arweinir gan nyrsys a bydd disgwyl fod gan y nyrs gymhwyster BGwydd neu'n gweithio tuag at gymhwyster BGwydd. Gall y rhain gynnwys rheoli clefydau cronig, monitro INR, mân salwch ac mae ganddynt y cymhwyster ychwanegol o presgripsiynu annibynnol.

Bydd yn rhaid i nyrs band 8 sy’n gweithio mewn practis cyffredinol ymgymryd â’r cymhwyster Ymarferydd Nyrsio Uwch MGwydd a bydd yn gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Ble mae nyrsys practis cyffredinol yn gweithio?

Mae nyrsys practis cyffredinol yn gweithio mewn meddygfeydd Meddygon Teulu.  Mae’r nyrs practis cyffredinol yn chwarae rôl allweddol o ran darparu gofal sylfaenol.

Dolenni defnyddiol: