Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Plant

Beth yw nyrs plant?

Mae nyrsys plant yn darparu gofal i blant / pobl ifanc (o enedigaeth i 18 mlwydd oed) a'u teuluoedd. Er mwyn gwneud hyn, mae nyrsys plant yn dysgu am bob agwedd ar ddatblygiad plentyn (cymdeithasol, emosiynol, meddyliol a chorfforol) a sut mae hyn yn ymwneud â'r dull o ofalu.

Ai nyrsio plant yw’r yrfa iawn i mi?

Mae nyrsio plant yn waith caled, gwobrwyol ac yn hwyl ond gall fod yn gymysgedd o emosiynau yn enwedig wrth ofalu am blant sâl iawn.  Dim oedolion bach yw plant; maent yn ymateb i salwch yn wahanol iawn, byddant yn mynd yn sâl yn llawer cyflymach nag oedolyn. Fodd bynnag, mae ganddynt y potensial i wella yn gyflym hefyd.

Mae chwarae yn ffactor bwysig iawn ym mhob lleoliad nyrsio ac mae synnwyr o hwyl yn hanfodol! O ddydd i ddydd bydd angen i chi ddefnyddio ystod eang o sgiliau, gan gynnwys:

  • gwrando a chyfathrebu
  • datrys problemau
  • gwneud penderfyniadau doeth
  • cynnig cyngor

Beth mae nyrs plant yn ei wneud?

Gall plant gael salwch aciwt sydd angen sylw, gan gynnwys gofal llawfeddygol neu ofal meddygol. Efallai bod ganddynt gyflyrau cymhleth iawn ac yn derbyn gofal gan rieni yn y cartref neu mewn ysbyty. Gall hyn roi straen aruthrol ar deulu ac mae’n rhaid i nyrsys plant gydnabod y rhiant fel gofalwr arbenigol; gan ddarparu gofal a chefnogaeth yn ôl yr angen mewn partneriaeth â'r teulu.

Mae nyrsys plant yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r plentyn a'i rieni, ac yn aml yn chwarae rhan ganolog i ddysgu’r teulu a gofalwyr i ymgymryd ag ystod o weithdrefnau cymhleth i alluogi plant i fyw bywyd mor llawn a normal ag y bo modd. Mae'r gofal yn cynnwys gweithgareddau bywyd bob dydd (ymolchi, gwisgo, gofal ymataliaeth, ac ati) i ymyriadau mwy cymhleth.

Ble mae nyrsys plant yn gweithio?

Mae nyrsys plant yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau; o fewn ysbytai gallai hyn gynnwys unedau newyddenedigol, wardiau pediatrig cyffredinol, ward arbenigol a gofal dwys. Fel mae ffocws y gofal yn symud i'r gymuned efallai y byddant yn gweithio mewn cartref, ysgolion, clinig plant, canolfan plant neu mewn hosbis i blant.

Fel rhan o dimau amlddisgyblaethol, mae nyrsys plant yn gweithio'n agos gyda staff chwarae, meddygon, gweithwyr cymorth gofal iechyd, gweithwyr cymdeithasol, ymwelwyr iechyd, athrawon, seicolegwyr a llawer mwy.

Faint mae nyrsys plant yn gallu ei ennill?

Yn y GIG, ar lefel mynediad mae nyrs yn dechrau ar fand 5; gweler ein adran Tâl a Buddion am fwy o wybodaeth.

Pa gyfleoedd datblygu sydd ar gael i nyrsys plant?

Mae nyrsio plant yn cynnig llawer o opsiynau cyflogaeth gwahanol a hyblyg.  Unwaith y byddwch wedi cymhwyso ac wedi ennill rhywfaint o brofiad clinigol gallech fod yn:

  • Arbenigwr mewn gofal yn y gymuned
  • Nyrs Ysgol
  • Darlithydd mewn prifysgol
  • Ymchwilydd
  • Rheolwr Gwasanaeth
  • Ymwelydd Iechyd
  • Nyrs Arbenigol Newyddenedigol
  • Uwch Ymarferydd Nyrsio
  • Nyrs Ymgynghorol

Sut mae modd i mi fod yn nyrs plant?

Oes angen gradd arna i? Oes, os yr ydych am weithio yn y GIG, bydd angen i chi gwblhau cwrs wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).
Ble galla i gael hyffoddiant yng Nghymru?

Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth.

Oes cyllid ar gael? Oes, i gael rhagor o wybodaeth am gyllid sydd ar gael ac i ddarganfod os yr ydych yn gymwys ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwobreuo Myfyrwyr.
Oes cyfleoedd ôl-radd i’w cael? Os ydych eisioes yn meddu ar radd berthnasol a phrofiad gofal iechyd efallai y bydd yn bosibl i chi ymgymryd â diploma ôl-radd neu radd meistr mewn nyrsio.
Sut ydw i’n cael profiad? I gael gwybodaeth am brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i’n hadran Gwaith.
Sut ydw i’n ceisio am swydd? Mae pob swydd wag ar gyfer y GIG yn cael eu hysbysebu ar NHS Jobs.  Ewch i’n hadran Gwaith am ragor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: