Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Iechyd Meddwl

Beth yw nyrs iechyd meddwl?

Mae nyrsio iechyd meddwl yn rôl hynod o amrywiol yn amrywio o weithio gyda phlant i weithio gyda’r genhedlaeth hŷn. Mae’r gwaith yn cynnwys helpu unigolion i wella ar ôl eu salwch neu i ddod i delerau ag ef, er mwyn iddynt allu byw bywydau cadarnhaol ac annibynnol.

Ai nyrsio iechyd meddwl yw’r yrfa iawn imi?

Mae nyrsio iechyd meddwl yn ddewis gyrfa sy’n gofyn llawer ond sydd hefyd yn un gwerth chweil a all fod yn llawn profiadau fydd yn newid eich bywyd. Mae helpu pobl i adfer eu hiechyd meddwl yr un mor werthfawr â gofalu am y rhai sydd â salwch corfforol, ac mae’n rhoi’r un boddhad.

Mae rhaid i nyrs iechyd meddwl allu cydymdeimlo a pheidio â bod yn feirniadol. Bydd rhaid ichi allu cydweithio â phobl ifanc, ennill eu hymddiriedaeth a meddu ar y gallu i reoli sefyllfaoedd emosiynol. Cysylltir y risg o drais â nyrsio iechyd meddwl yn aml, ac mae angen nifer o sgiliau i sylwi ar ddatblygiad tyndra ac i dawelu’r dyfroedd, gan gynnwys sgiliau:

  • arsylwi
  • cyfathrebu rhyngbersonol
  • seicogymdeithasol
  • meddwl yn gyflym a bod yn bwyllog
  • datrys problemau
  • gwneud penderfyniadau doeth
  • cynnig cyngor

Beth mae nyrs iechyd meddwl yn ei wneud?

Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio gyda phobl sy’n dioddef o ystod eang o broblemau iechyd meddwl. I rai pobl, caiff salwch meddwl ei sbarduno gan ddigwyddiad megis ysgariad, marw rhywun agos, rhoi genedigaeth, alcohol a chamdrin cyffuriau mewn amgylchiadau personol, gan gynnwys yn y gwaith.

Mae llawer o waith nyrsys iechyd meddwl yn cynnwys hyrwyddo lles meddyliol, gweithio gyda phobl sy’n dioddef o broblemau salwch meddwl difrifol ynghyd â chefnogi pobl sydd wedi dioddef o broblemau salwch meddwl wrth iddynt wella. A hwythau wedi derbyn hyfforddiant ynghylch cyd-destun cyfreithiol y gwaith, gall nyrsys iechyd meddwl adnabod person a allai fod mewn perygl o niweidio’u hunain neu rywun arall, ynghyd ag adnabod pryd.

Fel nyrs iechyd meddwl, byddwch yn rhan ganolog o dîm gofal amlddisgyblaethol, ar y cyd â bod yn gyd-lynydd gofal sylfaenol yn aml. Gan gydweithio â meddygon, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a chynorthwywyr gofal iechyd ymhlith eraill, byddwch yn datblygu perthnasau da â chydweithwyr, eich cleifion a’u teuluoedd fel bod gan bawb ran yn y broses.

Ymhle maent yn gweithio?

Mae nyrsys iechyd meddwl yn gweithio mewn ystod eang o leoliadau, ond fel arfer maent yn gweithio mewn ysbytai neu yn y gymuned, gan mai yno y darperir y rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl. Yn y gymuned, mae nyrsys iechyd meddwl yn y gweithio yn y lleoliadau canlynol:

  • Syrjeris meddygon teulu
  • Canolfannau iechyd meddwl cymunedol
  • Canolfannau preswyl
  • Cartrefi cleifion

Mewn ysbytai, gall nyrsys iechyd meddwl weithio yn y lleoliadau canlynol:

  • Ward Derbyn neu Adfer Iechyd meddwl
  • Uned Gofal Seiciatrig Dwys
  • Clinigau cleifion allanol
  • Gwasanaethau arbenigol megis anhwylderau bwyta neu wasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anghenion mwy cymhleth neu heriol

Faint mae nyrsys iechyd meddwl yn ei ennill?

Yn GIG Cymru, band 5 yw’r gyflog ddechreuol ar gyfer nyrs sydd newydd gofrestru. Am ragor o wybodaeth ynghylch bandiau a chyfraddau tâl, ewch i'n tudalen Tâl a Buddion.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i nyrsys iechyd meddwl gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae iechyd meddwl yn cynnig nifer o ddewisiadau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Unwaith ichi gymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, gallwch chi ddod yn:

  • Arbenigwr sy’n gweithio â phlant, y glasoed a menywod
  • Darlithydd prifysgol
  • Ymchwilydd
  • Rheolwr Gwasanaethau
  • Nyrs Bractis Uwch
  • Ymgynghorydd nyrs

Efallai y byddwch chi am ystyried meysydd gwahanol i nyrsio megis swyddi yn y therapïau seicolegol, er enghraifft ymarferydd lles seicolegol, neu therapydd dwysedd uchel.

Sut gallaf i ddod yn nyrs iechyd meddwl?

Oes angen gradd arna i? Oes, os ydych chi am weithio yn y GIG bydd angen ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru?

Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth.

Oes cyllid ar gael? Oes, ewch i’r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac i weld a ydych yn gymwys.
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? Os oes gennych chi radd berthnasol a phrofiad ym maes gofal iechyd eisoes, gall fod yn bosibl ichi ymgymryd â diploma ôl-raddedig neu radd feistr mewn nyrsio.
Sut mae ennill profiad? I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.
Sut galla i ymgeisio am swydd? Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’n gwefan Gwaith am fwy o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: