Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Carchar

Ai nyrsio mewn carchar yw’r yrfa iawn i mi?

I fod yn nyrs mewn carchar, bydd angen i chi fod yn nyrs gofrestredig unai mewn nyrsio oedolionanableddau dysgu neu iechyd meddwl.

Mae angen i nyrsys sy’n gweithio mewn carchardai fod yn wybodus am y system cyfiawnder troseddol a sut mae’n berthnasol i’w rôl.  Caiff nyrsys carchardai gael eu hamgylchynu gan staff cymorth  gyda swyddogion carchar yn barod i gamu i mewn i sefyllfaoedd pan fo’r angen, ond mae perygl o drais a cham-drin geiriol yn y swydd ac felly bydd sgiliau rheoli gwrthdaro yn bwyisg iawn i’w cael.

Maen angen i nyrsys carchar fod yn:

  • Addasadwy ac yn ddyfeisgar
  • Gyfathrebwyr da, gwrandawyr ac yn gallu cynnig cyngor
  • Gallu cael barn dda
  • Ddatryswyr prolemau

Beth mae nyrs mewn carchar yn ei wneud?

Mae tasgau y mae nyrs mewn carchar yn eu perfformio yn gallu amrywio yn ddibynnol ar y math o garchar a lefel y gwasanaethau gofal iechyd a ddarperir.  Fodd bynnag, byddant yn gyffredinol yn cynnwys:

  • Sgrinio iechyd
  • Rheoli a chefnogi carcharorion â phroblemau camddefnyddio sylweddau a’r rhai sydd angen dadwenyno
  • Clinigau cefydau cronig dan arweiniad Nyrsys
  • Clinigau Imiwneiddio
  • Rheoli triniaeth clwyfau  syml a chymhleth
  • Gofal ôl-lawdriniaeth
  • Gofal lliniarol/Gofal diwedd bywyd
  • Rheoli a chyfeirio carcharorion gyda phroblemau iechyd meddwl
  • Cefnogi carcharorion yn ystod cyfnodau anodd; er enghraifft, yn ystod salwch neu brofedigaeth teuluol
  • Cefnogi carcharorion ag anableddau dysgu a chorfforol

Ble mae nyrsys carchardai yn gweithio?

Mae nyrsys carchar fel arfer yn gweithio o’r adran gofal iechyd mewn carchardai ac yn cael eu cyflogi gan y GIG, neu gan sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar ran y GIG.  O bryd i’w gilydd maent yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Carchardai.

Mae nyrsys carchar yn gweitho mewn pob math o garchardai, gan gynnwys: unedau diogelwch uchel, carchardai agored, carchardai merched neu sefydliadau troseddwyr ifanc.

Dolenni defnyddiol: