Neidio i'r prif gynnwy

Cydymaith Meddygol

Beth yw Cydymaith Meddygol?

Mae Cydymaith Meddygol yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyffredinol sydd wedi’i hyfforddi’n feddygol. Mae’n gweithio ochr yn ochr â meddygon ac yn darparu gofal meddygol fel rhan annatod o’r tîm amlddisgyblaethol. Mae’r Cydymaith Meddygol yn ymarferwr sy'n gweithio gyda goruchwyliwr meddygol penodedig ond mae’n gallu gweithio'n annibynnol gyda chymorth priodol. Mae’n gweithio ar draws ystod o arbenigeddau mewn practis cyffredinol, yn y gymuned ac mewn ysbytai.

Beth mae Cydymaith Meddygol yn ei wneud?

Mae Cydymaith Meddygol wedi'i hyfforddi i berfformio nifer o dasgau o ddydd i ddydd, gan gynnwys:

  • cymryd hanes meddygol gan gleifion
  • cynnal archwiliadau corfforol
  • gweld cleifion â diagnosis heb eu gwahaniaethu
  • gweld cleifion â chyflyrau cronig hirdymor
  • llunio diagnosis gwahaniaethol a chynlluniau rheoli
  • cyflawni gweithdrefnau diagnostig a therapiwtig
  • datblygu a chyflwyno cynlluniau triniaeth a rheoli priodol
  • gofyn am astudiaethau diagnostig a'u dehongli
  • darparu cyngor hybu iechyd ac atal afiechyd i gleifion.

 

Mae'r fideo hwn yn dangos rôl y Cydymaith Meddygol Rôl y Cydymaith Meddygol

 

Ble mae’r Cydymaith Meddygol yn gweithio?

Bydd hyfforddi a gweithio fel Cydymaith Meddygol yn rhoi cyfle i chi weithio mewn lleoliad gofal sylfaenol a gofal eilaidd.

Mae gweithio ym maes gofal sylfaenol yn golygu gweithio gyda meddygon teulu a thîm ehangach y practis i ddarparu parhad mewn gofal i gleifion, yn enwedig y rhai â chyflyrau hirdymor. O atgyfeiriadau i ymweliadau cartref, mae rôl mewn practis cyffredinol ar gyfer y Cydymaith Meddygol yn amrywio bob dydd.

Mewn gofal eilaidd gall y Cydymaith Meddygol weithio ar draws nifer o feysydd ac arbenigeddau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i feddygaeth frys, oncoleg, gofal lliniarol, llawfeddygaeth gyffredinol, a microbioleg.

Sut mae dod yn Gydymaith Meddygol?

Mae Cydymaith Meddygol yn raddedig clinigol sydd wedi'i hyfforddi yn y model meddygol. Mae’n rhaid iddo gyflawni cwrs prifysgol dwy flynedd dwys ar lefel diploma neu feistr i ddysgu gwybodaeth a sgiliau clinigol ar ôl cyflawni gradd biofeddygol neu gradd sy’n gysylltiedig â gofal iechyd. Mae’n hyfforddi mewn gofal sylfaenol ac eilaidd i gael profiad clinigol cyflawn sy'n canolbwyntio ar y claf. Yn ogystal â'i radd gyntaf, mae profiad blaenorol y cydymaith meddygol yn amrywio o ffisioleg gardiaidd a seicolegwyr i fferyllwyr ac addysgwyr iechyd.

 

Faint mae’r Cydymaith Meddygol yn ei ennill?

Mae swydd y cydymaith meddygol sydd newydd gymhwyso wedi’i gwerthuso o dan yr Agenda ar gyfer Newid ym Mand 7.                                                                 

 

Pa gyfleoedd dilyniant gyrfa sydd ar gael i’r Cydymaith Meddygol?

Wrth i chi ddod yn fwy profiadol efallai y bydd cyfleoedd i symud i rôl uwch. Mae cyfle hefyd i nifer cyfyngedig ymestyn eu rôl i gymryd rheolaeth ar staff eraill neu gyfleoedd i ddarlithio.

 

Ble alla i hyfforddi yng Nghymru?

Mae cyrsiau Cydymaith Meddygol ar gael ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor. Ceir manylion am sut i wneud cais ar ddolenni gwefan y brifysgol.

Astudiaethau Cydymaith Meddygol, MSc - Prifysgol Abertawe

Astudiaethau Cynorthwyydd Meddygon | Prifysgol Bangor

 

 

A oes cyllid ar gael?

Oes, mae AaGIC yn cynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Bwrsariaeth AaGIC Bwrsariaeth y GIG - AaGIC

 

A fyddaf yn cael cymorth i wneud cais am swydd ar ôl cymhwyso?

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), mewn cytundeb â Byrddau Iechyd GIG Cymru a Phrifysgolion ledled Cymru, wedi datblygu proses baru o dan y Cynllun Symleiddio i Fyfyrwyr. Mae hyn yn golygu y bydd hyfforddai Cydymaith Meddygol yng Nghymru yn cael y cyfle i wneud cais am swyddi gwag wedi'u pridiannu ledled Cymru ar ôl cyflawni ei gymhwyster.

 

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth am rôl y Cydymaith Meddygol?

Mae Cyfadran y Cydymaith Meddygol (FPA) yn darparu cymorth proffesiynol i gymdeithion meddygol ledled y DU.

Cyfadran y Cydymaith Meddygol - gofal iechyd o safon ar draws y GIG (fparcp.co.uk)

Mae gwefan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn rhoi gwybodaeth am rôl y Cydymaith Meddygol a'r gwaith i reoleiddio'r proffesiwn.

https://www.gmc-uk.org/pa-and-aa-regulation-hub/map-regulation

Mae Cyfadran y Cydymaith Meddygol (FPA) yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon (RCP) yn darparu cymorth proffesiynol i gymdeithion meddygol ledled y DU.

Cyfadran y Cydymaith Meddygol | RCP Llundain