Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd Gyrfa o fewn y Gwyddorau Ffisiolegol

Awdioleg
Mesur a gwerthuso clyw a chydbwysedd pobl, ffitio ac addasu cymhorthion clyw, a chynnig technegau therapiwtig i wella ansawdd bywydau pobl. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn gweithio gyda phlant neu oedolion yn ogystal â grwpiau anghenion arbennig, ac maent ynghlwm wrth ddarparu triniaeth, dulliau rheoli a gofal hirdymor.
Gweithredu niwrofasgwlaidd awtonomig
Archwilio cleifion y mae nam ar sut mae eu nerfau yn gweithredu. Gall hyn fod o ganlyniad i salwch feirysol neu salwch cronig, fel diabetes. Mae monitro i ba raddau y mae nam ar y gweithredu yn bwysig ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Gwyddorau cardiaidd
Gweithio gyda chleifion sydd â chlefyd y galon neu y tybir bod ganddynt glefyd y galon. Gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau ac offer, gellid asesu sut mae’r galon yn gweithredu yn fecanyddol ac yn drydanol, ac mewn rhai achosion, gellid trin y galon. Gall gwyddonwyr gofal iechyd yn y maes hwn achub bywydau drwy ddefnyddio’u sgiliau.
Gwyddor darlifiad clinigol
Mae gwyddonwyr yn y maes hwn yn rhan o’r tîm llawdriniaeth ar y galon. Maent yn rheoli peiriannau calon-ysgyfaint ac offer arall a ddefnyddir i roi cymorth i gleifion yn ystod llawdriniaethau mawr. Gellid defnyddio eu sgiliau mewn unedau gofal critigol hefyd, er enghraifft pan fydd y galon neu’r ysgyfaint yn methu.
Technoleg gofal critigol
Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn sicrhau bod yr offer cymhleth a ddefnyddir ar gyfer cynnal bywyd, gwneud diagnosis a monitro cleifion sy’n gritigol sâl, yn cael eu gosod i fyny a’u defnyddio’n gywir. Maent yn gweithio ochr yn ochr â meddygon a nyrsys i wneud diagnosis o gyflyrau cleifion.
Ffisioleg gastroberfeddol
Mesur ac asesu gweithgarwch yn y system dreulio. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn cyfrannu at wneud diagnosis o weithredu annormal a chlefydau, ac yn cynnig technegau therapiwtig, sy’n helpu cleifion i wella tôn eu cyhyrau yn y system dreulio.
Niwroffisioleg
Archwilio sut mae’r system nerfol yn gweithredu a gwneud diagnosis o anhwylderau niwrolegol a’u monitro. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn cofnodi gweithgarwch trydanol yn yr ymennydd ac yn gweithio gyda chleifion amrywiol e.e. rhai sydd â nerfau caeth, sy’n dioddef o glefyd Parkinson neu epilepsi. Maent hefyd yn chwarae rôl yn ystod llawdriniaeth epilepsi.
Gwyddor offthalmig a golwg
Astudio anhwylderau sy’n ymwneud â golwg a chlefydau’r llygad a’r llwybr gweledol. Ymhlith yr enghreifftiau mae: mesur cylch gweld; edrych ar bwysedd yn y llygad a’r arwyddion trydanol bach sy’n trosglwyddo gwybodaeth weledol; a chymryd lluniau o’r llygad. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn mesur, monitro ac asesu gweithdrefnau amrywiol, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Ffisioleg anadlol
Gweithio gyda chleifion sydd â phroblemau â’u hysgyfaint, llwybr anadlu neu ocsigenu gwaed er mwyn deall yr achosion a’r ymateb i driniaeth. Yn aml mae’r profion sydd eu hangen ar gleifion yn gofyn am anogaeth sylweddol a natur ofalgar. Gellid gwneud y profion tra bod rhywun yn gorffwys neu’n gwneud ymarfer corff, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnolegau a sgiliau. Gall staff hefyd chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu triniaeth a gofal hirdymor.
Ffisioleg cwsg
Astudio cleifion sydd â phroblemau wrth gysgu, er enghraifft cyflwr a adwaenir fel apnoea cwsg lle bydd pobl yn dal eu hanadl wrth gysgu. Mae gwyddonwyr yn monitro cleifion ac yn helpu i ddarganfod problemau unigol, sy’n gofyn am driniaeth a rheoli hirdymor.
Dynameg wrinol
Archwilio anawsterau wrinol. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn defnyddio offer arbenigol i gofnodi pwysedd, llif wrin a gweithgarwch cyhyrau i wneud diagnosis o’r problemau a helpu i gynllunio a monitro triniaethau.
Gwyddor fasgwlaidd
Archwilio cleifion sydd ag anhwylderau yn ymwneud â’u rhydwelïau a’u gwythiennau. Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn defnyddio archwiliad uwchsain a dulliau eraill o ddadansoddi llif y gwaed heb lawdriniaeth i ganfod a mesur clefydau ac arwain y driniaeth.