Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Hyfforddi Ymarferwyr y GIG (PTP)

Mae’r Rhaglen Hyfforddi Gwyddonwyr yn arwain at radd BSc gymeradwyedig ac achrededig ym maes gwyddor gofal iechyd, ac ar ôl gorffen caiff myfyrwyr gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd. Mae’r graddau yn cwympo o dan bum thema gwyddor gofal iechyd:

  1. Cardiofasgwlar, Gwyddorau Anadlu a Chysgu: Ffisioleg Gardiaidd a Ffisioleg Anadlu a Chysgu

  2. Peirianneg glinigol: peirianneg feddygol, peirianneg ymbelydredd, technoleg arennol, peirianneg adsefydlu

  3. Ffiseg feddygol: ffiseg radiotherapi, ffiseg ymbelydredd, meddygaeth niwclear

  4. Y Gwyddorau Niwrosynhwyrol: awdioleg, niwroffisioleg, gwyddor offthalmig a’r golwg

  5. Gwyddorau Patholeg: gwyddorau gwaed, gwyddorau heintio, diagnosteg meinwe a chelloedd, geneteg

Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu gan ddefnyddio dull integredig, lle mae cyfuniad o hyfforddiant academaidd a hyfforddiant yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys 50 wythnos o hyfforddiant yn seiliedig ar y gweithle yn y GIG dros dair blynedd, ynghyd â hyfforddiant gwyddonol eang yn y ddwy flynedd gyntaf a chyfle i arbenigo ym mlwyddyn 2 neu 3.

Gofynion mynediad

Mae pob prifysgol yn gosod ei gofynion mynediad ei hun. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r brifysgol yn uniongyrchol neu ewch i’w gwefan. Os hoffech gyngor penodol am eich cymwysterau a / neu eich profiad, cysylltwch ag adran derbyniadau’r brifysgol neu â’r tiwtor arweiniol.

Bydd rhaid i chi basio gwiriad cofnod troseddol a chwblhau holiadur iechyd cyn cael eich derbyn ar y cwrs.

Bydd ymgeiswyr hŷn sy’n 21 oed a throsodd yn cael eu hystyried yn annibynnol ac ar sail teilyngdod. Cysylltwch â’r sefydliad yn uniongyrchol am fwy o wybodaeth.

Sut i wneud cais

UCAS (University and Colleges Admissions Service) sy’n gweinyddu’r broses ymgeisio am y rhaglenni gradd tair blynedd.

Cymorth i fyfyrwyr

Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn cyllido nifer o fyfyrwyr gofal iechyd i wneud y cwrs hwn. I fyfyrwyr gofal iechyd sydd wedi llwyddo i gael cyllid gan GIG Cymru ac sydd wedi ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu gradd, dyma’r cymorth sydd ar gael:

  • Ffioedd dysgu wedi eu talu’n llawn

  • Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr sydd â hawl, sy’n cynnwys bwrsariaethau, costau gofal plant, a’r lwfans myfyrwyr anabl ayyb

Dolenni defnyddiol: