Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd Gyrfa o fewn Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol

Peirianneg fiomeddygol
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn ymwneud â dylunio rhannau corff artiffisial fel cymalau’r clun a’r pen-glin, a mesur nodweddion cerdded er mwyn gwella sut mae aelodau artiffisial yn gweithredu a chywiriadau llawfeddygol anffurfiadau. Caiff technegau modern fel llawdriniaeth twll clo a robotig eu cyflawni drwy gymorth peirianneg fiomecanyddol.
Mesuriadau clinigol
Yn y maes hwn, mae technegau electronig arloesol a thechnegau eraill yn arwain y ffordd ar gyfer ymarfer meddygol. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn gweithio gyda chlinigwyr mewn rhai o’r canghennau mwyaf arbenigol o feddygaeth e.e. llawdriniaeth ar y galon a gofal dwys, er mwyn datblygu technegau arloesol ar gyfer trin clefydau, a mesur gweithredu ffisiolegol.
Radioleg ddiagnostig ac MRI
Mae delweddu diagnostig yn parhau i fod yn un o’r meysydd yn y GIG sy’n tyfu gyflymaf. Mae staff yn monitro ac yn gwneud y gorau o berfformiad offer delweddu ac yn cynnig cyngor ar fanyleb offer newydd a’r broses o’i dderbyn. Maent yn datblygu ac yn asesu technegau newydd i sicrhau bod y delweddau gorau yn cael eu tynnu gyda chyn lleied o belydriad â phosibl, a bod gwybodaeth ychwanegol am weithredu yn deillio o ddelweddau meddygol 3-D a 4-D.
Rheoli offer meddygol
Mae staff gwyddor gofal iechyd sy’n gweithio yn y maes hwn yn sicrhau bod offer meddygol yn cael ei fanylu, caffael, gosod, defnyddio a chynnal yn gywir ac yn ddiogel. Gall hyn gynnwys rheoli cyllidebau mawr ar gyfer cyfnewid a chynnal offer, yn ogystal â sicrhau bod offer meddygol sydd gorfod bod yn ddiogel wedi’i gyflunio a’i raddnodi yn gywir.
Prostheteg enol-wynebol ac adlunio gên ac wyneb
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn arbenigo mewn adlunio genau, wynebau a phenglogau cleifion sydd angen triniaeth gywirol o ganlyniad i gamffurfiad, canser neu trawma.
Electroneg ac offeryniaeth feddygol
Gan ddefnyddio technegau electronig a chyfrifiadura arloesol, mae staff gwyddor gofal iechyd yn dylunio, datblygu ac addasu offer meddygol arbenigol. Ymhlith y rhain mae systemau newydd ar gyfer cynnal a monitro bywyd ym maes gofal dwys, unedau gofal arbennig babanod, ac offer ar gyfer technegau llawfeddygol ac anesthetig gwell.
Darlunio meddygol a ffotograffiaeth glinigol
Gwasanaethau ffotograffiaeth, fideo, darlunio a graffeg i gefnogi gofal cleifion, addysgu ac ymchwil. Defnyddir delweddau i gynorthwyo’r gwaith o wneud diagnosis a thrin cleifion, yn ogystal â’r gwaith o ddylunio a chynhyrchu gwybodaeth i gleifion a chyhoeddiadau meddygol eraill.
Meddygaeth niwclear
Defnyddio sylweddau ymbelydrol i wneud diagnosis a darparu therapi. Gall staff gwyddor gofal iechyd fod ynghlwm wrth weithgynhyrchu a gweinyddu cynhyrchion fferyllol ymbelydrol i gleifion ac yna chael delweddau a gwneud mesuriadau. Maent yn sicrhau bod deunyddiau ymbelydrol yn cael eu prynu, defnyddio a gwaredu yn ddiogel ac maent ynghlwm wrth y gwaith o ddehongli canlyniadau a datblygu gweithdrefnau newydd ar gyfer gwneud diagnosis a darparu therapi.
Diogelu a monitro ymbelydredd
Mae ymarferwyr diogelu rhag ymbelydredd yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod y gwahanol fathau o ymbelydredd, gan gynnwys pelydrau-X, isotopau ymbelydrol, laseri ac ymbelydredd uwchfioled, yn cael eu defnyddio’n ddiogel at ddibenion meddygol. Maent yn mesur a chyfrifo’r dognau y mae cleifion a staff yn eu derbyn, yn arolygu’r amgylchedd gwaith, ac yn monitro perfformiad offer i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau caeth. Yn aml byddant yn gweithredu fel Ymgynghorwyr Diogelu rhag Ymbelydredd i brif sefydliadau’r GIG, gan osod polisi a gweithredu safonau ansawdd ar gyfer defnyddio ymbelydredd.
Radiofferylliaeth
Gweithgynhyrchu a darparu cynnyrch meddygol ymbelydrol i’w ddefnyddio mewn meddygaeth niwclear i gefnogi’r gwaith o wneud diagnosis a rhoi triniaeth.
Ffiseg radiotherapi
Trin canser gydag ymbelydredd ïoneiddio fel pelydrau-X, electronau a phrotonau. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn cynnal pa mor fanwl a chywir y mae’r triniaethau drwy ddefnyddio cyfrifiadau cyfrifiadurol manwl o gynlluniau triniaeth unigol cleifion. Maent hefyd yn sicrhau bod yr offer wedi’i raddnodi’n gywir a’i ddefnyddio’n ddiogel. Maent yn datblygu technegau newydd i wella effeithiolrwydd triniaethau radiotherapi.
Peirianneg adsefydlu
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn gweithio fel rhan o’r tîm adsefydlu i asesu ac ymateb i anghenion unigol pobl anabl. Maent yn darparu technoleg gynorthwyol safonol ac wedi’i theilwra’n arbennig i helpu gyda chyfathrebu a bywyd dyddiol, gan gynnwys seddi arbennig, cadeiriau olwyn, aelodau artiffisial, cyfathrebwyr electronig a chymhorthion robotig.
Gwyddoniaeth a thechnoleg arennol
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn gyfrifol am sicrhau bod offer dialysis arennol yn cael ei gynnal, a’i fod yn gweithio’n ddiogel ac yn effeithlon. Maent yn gweithio mewn ysbytai a chartrefi cleifion, ac yn hyfforddi staff a chleifion i ddefnyddio’r offer.