Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd Gyrfa o fewn Gwyddorau Bywyd

Bancio meinweoedd
casglu, prosesu, cynaeafu, storio a dosbarthu gwahanol fathau o feinweoedd i'w defnyddio i drin cleifion, er enghraifft y croen, mêr esgyrn, cornbilennau, falfiau'r galon a bôn-gelloedd.  Mae staff gwyddor gofal iechyd yn sicrhau bod meinweoedd yn cael eu trin yn ddiogel a bod y meinweoedd cywir yn cael eu rhoi i gleifion.
Biocemeg glinigol
Mae staff gwyddor gofal iechyd yn helpu i wneud diagnosis o glefydau a'u rheoli drwy ddadansoddi gwaed a hylif arall y corff. Maent yn rhoi cyngor i feddygon mewn ysbytai a meddygon teulu ynghylch pa brofion i ofyn amdanynt, sut i ddefnyddio canlyniadau'r profion a'r opsiynau ar gyfer trin y claf.
Embryoleg ac androleg 
maes dynamig sy'n ymdrin â thriniaethau anffrwythlondeb, fel IVF, a rhaglenni eraill. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn helpu i gasglu wyau gan gleifion a'u paratoi i gael eu ffrwythlonni.
Geneteg folecwlaidd
archwilir samplau o DNA cleifion i nodi annormaleddau genetig a allai fod yn gyfrifol am glefydau neu gyflyrau etifeddol. Mae staff gofal iechyd nid yn unig yn adnabod genynnau annormal ond maent hefyd yn gallu rhagfynegi'r tebygolrwydd y byddant yn cael eu trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf.
Fflebotomi
cymryd samplau gwaed i helpu i wneud diagnosis neu i fonitro clefydau. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn yn meddu ar sgiliau arbenigol sy'n eu galluogi i gymryd gwaed gan fabanod, plant a phobl hŷn eiddil yn ogystal â chleifion eraill. Gallant hefyd gynorthwyo gyda thechnegau mwy datblygedig i gael mynediad i bibellau gwaed ar gyfer diagnosis neu driniaeth.
Hematoleg (gan gynnwys gwaedataliad a thrombosis)
astudiaeth o waed a meinweoedd sy'n ffurfio'r gwaed yw hematoleg. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn chwarae rhan bwysig mewn gwneud diagnosis o anhwylderau'r gwaed a mêr esgyrn a monitro'r cleifion sy'n dioddef o'r anhwylderau hynny, er enghraifft: lewcemia a chanser y gwaed; anemia; hemoffilia a phroblemau eraill yn ymwneud â gwaedu a cheulo; a chlefyd y crymangelloedd.
Histogydnawsedd ac imiwnogeneteg
mae staff gwyddor gofal iechyd yn cydweddu meinweoedd er mwyn trawsblannu organau a mêr esgyrn.  Maent hefyd yn datblygu ac yn cynnal profion a thriniaethau sy'n ymwneud â thrin y system imiwnedd.
Histopatholeg
mae hyn yn golygu archwilio samplau meinweoedd o dan y microsgop. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn samplu ac yn paratoi meinweoedd i'w harchwilio ac ar gyfer diagnosis drwy ddefnyddio llifau a thechnegau arbenigol i ddatgelu strwythur meinweoedd a chelloedd er mwyn galluogi meddygon i weld beth yw cwrs a chanlyniad tebygol clefyd fel canser.
Imiwnoleg
mae hyn yn canolbwyntio ar gyflyrau sy'n effeithio ar y system imiwnedd.  Mae staff gwyddor gofal iechyd yn ymwneud â gwneud diagnosis a monitro ymatebion imiwn annormal fel alergeddau, lewcemia a HIV.
Microbioleg
astudio organeddau (bacteriol, feirysol, ffyngaidd a pharasitig) sy'n achosi heintiau. Rhan fawr o'r gwaith yw adnabod bacteria a’r cyffur mwyaf effeithiol i'w trin. Gall staff gwyddor gofal iechyd weithio yn yr Asiantaeth Diogelu Iechyd hefyd, i helpu i atal a rheoli epidemigau.
Microsgopeg electron
maes arbenigol sy'n perthyn i  histopatholeg (gweler uchod). Mae staff gwyddor gofal iechyd yn paratoi ac yn archwilio samplau bach iawn o feinwe drwy ddefnyddio microsgop electron, gan edrych ar strwythurau celloedd unigol a'u dehongli i helpu i wneud neu ategu diagnosis clinigol.
Patholeg anatomegol
maes hollbwysig sy'n ymwneud â deall ac adnabod achosion marwolaeth, a chynorthwyo meddygon gydag archwiliadau post-mortem. Gall hefyd olygu cynnig cymorth i berthnasau mewn profedigaeth.
Sicrwydd ansawdd allanol
monitro ansawdd amrywiaeth o brofion diagnostig. Mae staff gwyddor gofal iechyd yn y maes hwn hefyd yn ymwneud ag archwilio ac achredu rhaglenni mesur er mwyn i gyfranogwyr gyrraedd y safonau cywir.
Sytogeneteg
caiff cromosomau, a gymerir o gelloedd cleifion, eu hastudio o dan ficrosgop i weld a oes unrhyw annormaleddau, er enghraifft ymysg babanod newydd-anedig. Mae staff gwyddor gofal iechyd hefyd yn helpu i wneud diagnosis o rai mathau o lewcemia.
Sytopatholeg a sytoleg serfigol
yn ogystal â sgrinio profion ceg y groth, mae staff gwyddor gofal iechyd yn paratoi ac yn edrych ar ystod o samplau celloedd eraill am arwyddion o annormaledd.
Tocsicoleg
nodi, mesur ac astudio'n wyddonol effeithiau cemegau niweidiol, sylweddau biolegol a gorddos o gyffuriau ar y corff.  Mae tocsicolegwyr yn cynllunio ac yn cynnal ymchwiliadau i bennu effaith deunyddiau tocsig ac yn rhoi cyngor ar drin cleifion yr effeithiwyd arnynt.
Trallwyso gwaed
mewn ysbytai, caiff gwaed gan roddwyr gwaed ei gydweddu er mwyn ei roi i gleifion pan fydd ei angen, er enghraifft yn ystod llawdriniaeth. Mae staff gwyddor gofal iechyd sy'n gweithio i'r Gwasanaeth Gwaed a Thrawsblannu Cenedlaethol yn ymwneud hefyd â chasglu, prosesu a rhoi gwaed ac yn ymchwilio i anawsterau sy’n codi wrth gydweddu gwaed a meinwe.