Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodeg Iechyd

Ydych chi’n mwynhau gweithio gyda chyfrifiaduron? A oes gennych ddoniau datrys posau neu ddadansoddi problemau? A oes gennych ddiddordeb mewn gwaith llyfrgell? Mae nifer o ddewisiadau gwahanol ar gael ym maes gwybodeg iechyd, a dyma’r maes sy’n tyfu cyflymaf yn y sector iechyd.

Yma yn GIG Cymru, rydym yn gweithio ar brosiectau cyffrous i helpu staff y GIG i ddarparu gofal gwell i gleifion. P’un a ydych yn gweithio fel datblygwr meddalwedd, codiwr clinigol neu glerc cofnodion iechyd, byddwch yn darparu gwasanaeth pwysig.

Mae’r rolau ym maes Gwybodeg Iechyd yn syrthio i’r meysydd canlynol:

  • Archwilio clinigol
  • Codio clinigol
  • Gwybodeg glinigol
  • Llywodraethu gwybodaeth
  • Rheoli Llyfrgell a Gwybodaeth
  • Technoleg gwybodaeth
  • Hyfforddiant TG
  • Staff cofnodion iechyd/meddygol
  • Rheolwyr rhaglen/prosiect
  • Cyfarwyddwyr/uwch reolwyr gwybodeg iechyd

Ewch i wefan Fframwaith Gyrfa Gwybodeg Iechyd er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y rolau uchod, swyddi, a sut gall eich gyrfa gymryd cam ymlaen.

Dolenni defnyddiol: