Neidio i'r prif gynnwy

Ymarferydd yr adran lawdriniaethau

Beth yw Ymarferydd yr Adran Lawdriniaethau?

Mae Ymarferwyr yr Adran Lawdriniaethau yn rhan hanfodol o dîm amlddisgyblaethol y theatr lawdriniaethau, ac maent yn rhoi gofal ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf yn ystod anesthesia, llawdriniaeth a gwella, ac ymateb i anghenion corfforol a seicolegol y cleifion.

Ai dyma’r yrfa iawn i fi?

Os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, yn mwynhau cael eich herio, yn teimlo’n angerddol dros ofalu ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, dyma’r yrfa berffaith i chi.
 

Beth mae ymarferwyr yr adran lawdriniaethau yn gwneud?

Mae swyddi ymarferwyr yr adran lawdriniaethau yn unigryw. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â llawfeddygon, anesthetyddion a staff gofal iechyd eraill mewn tîm lle mae angen i bawb gydweithio’n agos. Mae’r theatr lawdriniaethau yn lle diddorol dros ben i weithio ynddi. Un funud, byddwch yn helpu rhywun o roi genedigaeth, ac yna’n helpu i achub bywyd rhywun. Gall fod yn ddiwrnod arferol neu’n ddiwrnod annisgwyl bob dydd.

Dyma syniad o swydd-ddisgrifiad ymarferydd yr adran lawdriniaethau:

  • Cynllunio a blaenoriaethu gofal ac anghenion y claf a gwerthuso eu hymateb i ddarparu gofal o’r safon uchaf.
  • Trosglwyddo gwybodaeth gymhleth a manwl i aelodau eraill y tîm neu staff mewn meysydd clinigol eraill, yn brydlon, yn glir ac yn gryno er mwyn bodloni anghenion y claf, yn enwedig yn ystod sefyllfaoedd brys.
  • Cyfathrebu â chleifion mewn ffordd sympathetig er mwyn lleddfu pryderon a datblygu perthynas, er mwyn ennyn hyder yn eu gofalwyr.
  • Sicrhau diogelwch ac urddas y cleifion bob amser, a bod eu hanghenion yn cael eu bodloni trwy weithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Cyfrifol am ddefnyddio cyfarpar anesthetig, llawfeddygol a gofal dwys cymhleth mewn ffordd ddiogel.
  • Darparu cymorth i’r gwasanaethau brys y tu allan i oriau yn y meysydd clinigol sy’n gofyn am anesthetig, sgwrio neu ymyrraeth er mwyn gwella.
  • Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan mewn prosesau trosglwyddo ysbyty mewnol ac allanol, mewn ambiwlansau a hofrennyddion.
  • Cefnogi a chyfrannu i newidiadau er mwyn gwella ymarfer/amodau gwaith trwy ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth a rhannu profiadau gwaith.

Ym mhle y mae ymarferwyr yr adran lawdriniaethau’n gweithio?

Pan fydd myfyrwyr yn cymhwyso, gallant ddisgwyl gweithio yn y theatr lawdriniaethau, ac yn yr amgylchedd amdriniaethol gyfan. Gallant weithio ar yr ochr sgwrio (llawdriniaethau), ar anesthetig, ar y broses wella neu wneud ychydig o bob dim yn y meysydd hyn. Hefyd, gallwch weithio mewn meysydd gofal critigol, fel unedau gofal dwys a’r adran ddamweiniau ac achosion brys.

Beth yw cyflog ymarferwyr yr adran lawdriniaethau?

O ran cyflog, bydd pobl yn dechrau ar fand 5 y GIG, ac mae cyfle i gyflogau godi’n gyflym. Bydd dangos sgiliau datblygedig yn eich galluogi i symud i Fand 6, ac yna Fand 7, o bosibl. Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i ymarferwyr yr adran lawdriniaethau gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Fel y soniwyd uchod, mae nifer o gyfleoedd i ymarferwyr gamu ymlaen yn eu gyrfa. Gan ddibynnu ar yr hyn yr ydych eisiau ei ennill o’ch gyrfa, a pha lwybr yr hoffech ei ddilyn, mae cyfleoedd ar gael i gamu ymlaen i Fand 6, Band 7/Band 8, lefel rheoli.

Dyma rai enghreifftiau (ond nid dyma’r cyfan) o’r rolau y gallech gamu ymlaen iddynt:

  • Ymarferydd theatr uwch
  • Arweinydd tîm y theatr
  • Rheolwr y theatr
  • Swyddog dadebru
  • Darlithydd prifysgol
  • Cynorthwyydd cyntaf llawdriniaethol
  • Ymarferydd gofal llawdriniaethol

Sut gallaf ennill swydd fel ymarferydd yr adran lawdriniaethau?

I fod yn ymarferydd yr adran lawdriniaethau, bydd angen i chi gymhwyso ar gwrs prifysgol Ymarfer yr Adran Lawdriniaethol sy’n cael ei gydnabod . Mae gan broffesiwn ymarferwyr yr adran lawdriniaethau gorff llywodraethu o’r enw’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd, ac maent yn nodi mai’r cymhwyster cyfredol sydd ei angen er mwyn cofrestru fel ymarferydd yr adran lawdriniaethau yw lefel Diploma. Fodd bynnag, llond llaw yn unig o brifysgolion sy’n cynnig y diploma Ymarfer yr Adran Lawdriniaethol, gan fod y mwyafrif yn cynnig y rhaglen radd 3 blynedd.

Ym  mhle galla i gael fy hyfforddi yng Nghymru? Prifysgol Caerdydd, ond treulir y rhan fwyaf o amser ar leoliad mewn ysbytai, lle gellir gwneud trefniadau i’ch gosod yn nes at adref pe dymunwch.
A oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac am gymhwysedd, ewch i’r Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Sut galla i ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

Sut galla i wneud cais am swydd?

I hyfforddi - UCAS

Pan fyddwch wedi cymhwyso - NHS jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: