Neidio i'r prif gynnwy

Therapi lleferydd ac iaith

Beth yw Therapydd Iaith a Lleferydd?

Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn darparu triniaeth, cymorth a gofal trawsnewidiol i blant ac oedolion sy’n ei chael yn anodd cyfathrebu, bwyta, yfed neu lyncu.

Maen nhw’n gweithio gyda rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill hefyd fel athrawon, nyrsys a therapyddion galwedigaethol a meddygon.

Ai gweithio fel therapydd iaith a lleferydd yw’r yrfa iawn imi?

Os ydych chi wrthi’n ystyried pa un ai gweithio fel therapydd iaith a lleferydd yw’r dewis gyrfa iawn i chi, gofynnwch y cwestiynau hyn ichi eich hun:

  • ydych chi’n mwynhau gweithio gyda phobl o bob oedran?

  • ydych chi’n gallu gweithio’n rhan o dîm?

  • oes sgiliau gwrando a chyfathrebu da gennych chi?

  • ydych chi’n mwynhau datrys problemau?

  • oes sgiliau astudio da gennych chi?

  • ydych chi am fod yn rhan o broffesiwn dynamig sydd wrthi’n datblygu’n gyflym, ac sy’n tynnu ar wyddoniaeth, addysg a meddygaeth?

  • oes doniau arwain a sgiliau negodi gennych chi?

Beth mae therapyddion iaith a lleferydd yn ei wneud?

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn trin pobl sydd â phroblemau cyfathrebu, bwyta, yfed a llyncu.

Maen nhw’n helpu pobl sy’n dioddef o nifer o gyflyrau, megis:

  • anawsterau dysgu ysgafn, cymedrol neu ddifrifol
  • anableddau corfforol
  • oediad iaith
  • nam ar y clyw
  • taflod hollt
  • atal dweud
  • awtistiaeth / anawsterau wrth ryngweithio’n gymdeithasol

Ac maen nhw’n helpu oedolion gyda’r canlynol:

  • problemau wrth gyfathrebu neu lyncu yn sgil namau niwrolegol a chyflyrau dirywiol, gan gynnwys strôc, anafiadau i’r pen, clefyd Parkinson a dementia
  • canser y pen, gwddwg neu wddf
  • anableddau corfforol
  • atal dweud
  • nam ar y clyw

Mewn llawer o achosion, bydd therapyddion iaith a lleferydd hefyd yn cefnogi gofalwyr defnyddwyr gwasanaethau.

Ble mae therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio?

Mae therapyddion iaith a lleferydd yn gweithio mewn:

  • canolfannau iechyd cymunedol

  • wardiau ysbyty

  • adrannau cleifion allanol

  • ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig

  • Unedau asesu a chanolfannau dydd

  • ac yng nghartrefi cleifion hefyd

  • Mae rhai hefyd yn gweithio yn y llys, mewn carchardai ac mewn sefydliadau troseddwyr ifainc

Pa oriau mae therapyddion iaith a lleferydd yn eu gweithio?

Mae telerau ac amodau yn dibynnu ar y cyflogwr.  Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru wedi eu cyflogi gan y GIG o dan yr Agenda ar gyfer Newid.  Yr oriau amser llawn yw 37.5 awr yr wythnos.

Faint mae therapyddion iaith a lleferydd yn ei ennill?

Yn y GIG, mae therapyddion iaith a lleferydd cymwys ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; ewch I’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i therapyddion iaith a lleferydd gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Gall therapyddion iaith a lleferydd fwrw ymlaen yn eu gyrfa trwy ddewis arbenigo mewn maes ymarfer penodol, fel gofal critigol, atal dweud, anableddau dysgu a chyflyrau niwrolegol. Mae dewisiadau eraill yn cynnwys dysgu neu ymchwil.

Gallwch chi fynd ymlaen i’r byd rheoli hefyd, naill ai ym maes therapi iaith a lleferydd neu ym maes rheoli yn gyffredinol.  Fel pennaeth gwasanaeth lleol, byddech yn gyfrifol am dîm o staff a rheoli cyllideb.

Mae rhai therapyddion iaith a lleferydd yn sefydlu eu practis eu hun.

Sut alla i ddod yn therapydd iaith a lleferydd?

Oes angen gradd arna i? Oes, mae’n rhaid i bob therapydd iaith a lleferydd gwblhau rhaglen radd gydnabyddedig a chofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd cyn cael ymarfer.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru?

Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Prifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? Os oes gradd anrhydedd gennych eisoes neu radd gyfwerth, mae’n bosibl y bydd modd ichi gael lle ar raglen gymhwyso ôl-raddedig ddwy flynedd.  Mae pynciau mewn meysydd cysylltiedig (fel Seicoleg, y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ieithyddiaeth) yn cael eu ffafrio.
Sut mae ennill profiad?

Cysylltwch â staff eich gwasanaeth therapi iaith a lleferydd lleol, gan ei bod yn bosibl y bydd modd iddynt drefnu sesiwn arsylwi. Fodd bynnag, does dim rhaid ichi wneud hyn.

Mae gwaith gwirfoddol a mathau eraill o brofiad gwaith oll yn cael eu hystyried i fod yn berthnasol. I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

Cysylltwch â’ch swyddfa wirfoddoli leol neu ceisiwch ennill ychydig o brofiad gwaith ym maes gofal iechyd, mewn cartref nyrsio neu mewn ysgol.  Mae angen gwirfoddolwyr ar grwpiau strôc lleol yn aml.  Mae’n bosibl y bydd y sefydliadau canlynol, sy’n helpu pobl sydd ag anawsterau iaith a lleferydd, yn gallu rhoi gwybodaeth ichi ynghylch cyfleoedd am waith gwirfoddol: Connect, Headway, Y Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, Afasic, Sense.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Gall aelodau o Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd weld hysbysebion o gyflogwyr eraill, fel ysgolion.

Dolenni defnyddiol: