Neidio i'r prif gynnwy

Therapi galwedigaethol

Beth yw Therapi Galwedigaethol?

Pan fo therapyddion iechyd galwedigaethol yn siarad am ‘alwedigaeth’, byddant yn sôn am yr holl weithgareddau y mae pobl eu gwneud, sy’n cynnwys:

  • Edrych ar ôl ein hunain (pethau fel golchi a bwyta)
  • Gwaith/bod yn gynhyrchiol (mynd i’r ysgol neu brifysgol, gweithio, gwirfoddoli, gofalu am bobl eraill)
  • Hamdden (cael hwyl, cymdeithasu a hobïau)

Weithiau, gall salwch, anabledd, heneiddio neu newid i’ch amgylchiadau personol olygu ei bod yn anos i wneud rhai o weithgareddau normal neu arferol bywyd.

Ai Therapydd Galwedigaethol yw’r yrfa iawn imi?

Mae Therapi Galwedigaethol yn yrfa addas i bobl sy’n meddu ar y canlynol:

  • ymagwedd creadigol ac addasadwy at y gwaith
  • sgiliau ysgrifenedig da ar y cyd â sgiliau cyfathrebu da ar lafar
  • y gallu i ffurfio perthnasau gwaith da ag amrywiaeth eang o bobl
  • amynedd, penderfyniad ac agwedd gadarnhaol
  • y gallu i ddeall a derbyn blaenoriaethau pobl eraill a’u ffyrdd o fyw
  • ymagwedd ymarferol i ddatrys problemau
  • stamina meddyliol a chorfforol lefel uchel
  • awydd cryf i helpu pobl

Beth mae Therapyddion Galwedigaethol yn ei wneud?

Mae therapyddion galwedigaethol yn helpu pobl o bob oedran i wneud y gweithgareddau sy’n bwysig iddynt.  Byddant wedyn yn datblygu cynllun gyda’r person, a chyda’u gofalwyr os yw’n briodol.

Mae therapyddion galwedigaethol yn darparu cymorth i’r bobl hynny y mae eu hiechyd yn eu rhwystro rhag gwneud y gweithgareddau sy’n bwysig iddynt. Gall therapydd galwedigaethol nodi pa gryfderau ac anawsterau sydd gennych chi yn eich bywyd bob dydd, megis gwisgo, coginio, mynd i’r siopau, neu aros yn y gwaith a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau ymarferol. Gall hyn fod oherwydd bod gennych:

  • gyflwr meddygol - er enghraifft,  arthritis gwynegol, sglerosis ymledol, Clefyd Parkinson, Syndrom Blinder Cronig
  • anghenion dysgu
  • neu gyflwr iechyd meddwl - er enghraifft, anhwylder deubegwn, iselder, sgitsoffrenia, neu’n gaeth i rywbeth

Ar ôl nodi’r anawsterau mae unigolyn yn eu hwynebu wrth wneud tasgau pob dydd, gall therapyddion galwedigaethol helpu gan wneud un o’r canlynol:

  • dangos sut mae ymarfer y gweithgareddau mewn cyfnodau hylaw
  • dysgu ffordd wahanol o wneud y gweithgaredd
  • argymell newidiadau a fydd yn gwneud y gweithgaredd yn haws
  • darparu offer a dyfeisiau neu addasu’ch amgylchedd er mwyn gwneud gweithgareddau yn haws
Defnyddir therapi galwedigaethol hefyd fel rhan o raglen adfer ar ôl damwain, salwch neu lawdriniaeth i'ch helpu i adfer ac adennill cymaint annibyniaeth â phosibl. Er enghraifft:
  • Ar ôl cael gosod clun newydd, gall rhywun ei chael yn anodd mynd i mewn ac allan i'r baddon. Gellid gosod rheiliau gafael yn yr ystafell ymolchi i wneud hyn yn haws
  • Gall rhywun sydd ag arthritis gwynegol – cyflwr sy'n achosi poen yn y cymalau ac yn peri iddynt chwyddo – ei chael hi'n anodd codi gwrthrychau bach. Mae’n bosibl y caiff offer arbennig ei wneud, fel plyciwr llysiau â handlen fawr er enghraifft, fel bod y dasg yn haws ei gwneud
  • Yn dilyn strôc - efallai y bydd un rhan o’ch corff yn mynd yn wan a bydd yn rhaid ichi ddysgu ffyrdd newydd o wneud gweithgareddau pob dydd

Yn greiddiol i bob un o’r newidiadau hyn mae ffocws y therapydd galwedigaethol ar helpu'r claf i gynnal a gwella eu gallu i wneud tasgau pob dydd.

Ymhle mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio?

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys:

  • Ysbytai
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Trydydd sector, Mentrau Cymdeithasol ac Elusennau
  • Cwmnïau Preifat
  • Swyddi Hunangyflogedig

Pa oriau mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio?

Fel arfer mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio 37.5 awr yr wythnos yn y GIG. Yn aml, mae'r rhain yn ystod yr wythnos o fewn oriau swyddfa. Serch hynny, mae angen cynyddol i Therapyddion Galwedigaethol weithio ar y penwythnos neu’n gynharach neu’n hwyrach yn y dydd, a hynny er mwyn bodloni anghenion y bobl rydym ni’n gweithio gyda nhw.

Faint mae Therapyddion Galwedigaethol yn ei ennill?

Yn y GIG, mae therapydd galwedigaethol cymwys ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; Ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Therapyddion Galwedigaethol gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Unwaith ichi ymgymhwyso ac ennill ychydig o brofiad clinigol, mae nifer o ddewisiadau cyflogaeth ar gael, gan gynnwys:

  • Dod yn Uwch Therapydd Galwedigaethol mewn maes arbenigol
  • Darlithydd prifysgol
  • Rheolwr therapi

Sut y galla i ddod yn Therapydd Galwedigaethol?

Oes angen gradd arna i? Oes. Os ydych chi am weithio fel Therapydd Galwedigaethol,  bydd angen i chi gwblhau gradd. Yn ogystal â hyn, bydd yn rhaid ichi gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd ar ôl ymgymhwyso.
Ymhle y galla i hyfforddi yng Nghymru? Cynigir cyrsiau gradd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Glyndŵr (Wrecsam). Cynigir cyrsiau ledled y DU mewn 31 o brifysgolion.
Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? Os oes gennych chi radd berthnasol a phrofiad ym maes gofal iechyd eisoes, gall fod yn bosibl ichi wneud cwrs ôl-raddedig. Yng Nghymru, cynigir y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae cymhwyster MSc ychwanegol ar gael hefyd.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs?

Mae cyngor pellach ar gael yn y Llawlyfr Therapi Galwedigaethol.

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Hysbysebir swyddi mewn awdurdodau lleol gan sefydliadau unigol fel arfer ar eu gwefan eu hunain. Hysbysebir rolau sydd wrthi’n codi yn y maes, fel gweithio i’r trydydd sector, yn unigol gan sefydliadau.

Dolenni defnyddiol: