Neidio i'r prif gynnwy

Radiograffydd

Beth yw radiograffydd?

Ydych chi erioed wedi torri neu gracio asgwrn ac wedi bod i’r ysbyty? Ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi cael triniaeth radiotherapi ar gyfer canser? Do? Wel, mae’n siŵr eich bod wedi cyfarfod radiograffydd!

Mae radiograffwyr yn gofalu am bobl sy'n sâl, mewn poen ac a allai fod yn bryderus neu'n ansicr am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd. Maent yn rhan bwysig o dimau amlbroffesiwn mawr ac yn defnyddio eu hystod eang o sgiliau a hyfforddiant i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd sensitif, sy'n canolbwyntio ar y claf yng Nghymru.   

Ai radiograffeg yw’r yrfa iawn i fi?

Gofalu am gleifion sydd wrth wraidd gwaith radiograffwyr; mae’n rhaid iddynt fod yn drugarog a chydymdeimlo. Rhaid i radiograffwyr allu gweithio a chyfathrebu â phobl o bob oedran a chefndir. Pan fyddwch yn astudio i fod yn radiograffydd, byddwch yn datblygu eich sgiliau trin pobl er mwyn darparu gofal rhagorol i gleifion.

Mae cymryd diddordeb yn y gwyddorau’n hanfodol, gan y byddwch yn dysgu llawer am anatomi, technoleg, afiechydon ac anafiadau.

Mae radiograffydd da yn:

  • Peidio â chynhyrfu dan bwysau
  • Mwynhau gweithio fel rhan o dîm
  • Hyderus yn gweithio gyda thechnoleg fodern
  • Gallu addasu ac yn gallu dysgu sgiliau newydd

Darganfod mwy: