Neidio i'r prif gynnwy

Podiatreg

Beth yw Podiatreg?

Gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar anghenion meddygol a phodiatraidd pobl o bob oedran yw Podiatreg.

Yn bennaf, mae podiatryddion yn trin unigolion sydd â salwch neu gyflwr sy’n golygu bod eu coesau neu eu traed â risg uwch o anaf, bod eu hyfywedd meinwe’n cael ei pheryglu a/neu eu bod mewn poen ac yn colli’r gallu i ddefnyddio rhannau o’r corff.  Gall hyn gynnwys Diabetes, Arthritis Gwynegol, Parlys yr Ymennydd, Clefyd Rhydweli Ymylol a Niwed i’r Nerfau Ymylol.

Defnyddir therapi er mwyn lleihau nifer yr achosion o drychu ymhlith y grwpiau hyn o gleientiaid.  Nod ymyriadau podiatraidd yw gwella symudedd, annibyniaeth ac ansawdd bywyd claf trwy drin unrhyw angen gofal iechyd ar y droed neu ffêr.

Ai Podiatreg yw’r yrfa iawn imi?

Gall gyrfa ym maes Podiatreg roi amrywiaeth o gyfleoedd ichi, trwy weithio â phobl o bob oedran fel arbenigwr yn iechyd y droed a’r ffêr, a hynny mewn tîm amlddisgyblaethol yn aml.  Os ydych chi’n mwynhau datrys problemau, helpu pobl eraill ac yn ymddiddori mewn anatomeg, yna gall Podiatreg fod yr yrfa iawn ichi.

Beth mae Podiatryddion yn ei wneud?

Gweithwyr iechyd annibynnol yw Podiatryddion, sy’n gyfrifol am asesu a thrin anhwylderau’r droed a’r goes isaf ynghyd â rhoi diagnosis amdanynt. Gwneir hyn trwy ymyriadau ataliol, biomecanyddol, ffarmacolegol a llawfeddygol.

Gall podiatrydd weithio ar ei ben ei hun neu fel rhan o dîm amlddisgyblaethol.

Ymhle mae Podiatryddion yn gweithio?

Mae Podiatryddion yn gweithio mewn nifer o leoliadau, megis:

  • Ysbytai
  • Clinigau Cymunedol
  • Practisiau meddygon teulu
  • Cartrefi cleifion

Pa oriau mae Podiatryddion yn gweithio?

Yr oriau gweithio safonol yw 37.5 yr wythnos.

Faint mae Podiatryddion yn ei ennill?

Yn y GIG, mae podiatrydd cymwys ar lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; gweler ein tudalen Cyflog a Buddiannau am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i Bodiatryddion gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Wrth i Bodiatryddion fwrw ymlaen yn eu gyrfa ac wrth i’w sgiliau clinigol ddatblygu, mae llawer yn dewis arbenigo mewn un maes clinigol, megis gwasanaethau cyhyr-ysgerbydol, diabetes a hyfywedd meinwe, er mwyn datblygu eu gyrfa.

Gall camu ymlaen yn eich gyrfa gynnwys rheoli yn y GIG a bod yn gyfrifol am dimau o staff, rheoli cyllidebau a darparu gwasanaethau.  Mae dewisiadau eraill yn cynnwys dysgu neu ymchwil.

Bydd rhai Podiatryddion yn dewis ymgymryd â mwy o hyfforddiant er mwyn dod yn llawfeddygon podiatrig. Bydd eraill yn penderfynu gweithio’n breifat neu â gweithwyr proffesiynol eraill.

Sut y galla i ddod yn Bodiatrydd?

Oes angen gradd arna i? Oes. Os ydych chi am weithio i’r GIG, bydd rhaid ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei achredu gan Y Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru? Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Oes cyfleoedd ôl-raddedig? Oes - Mae gwefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn rhoi manylion am raglenni ôl-raddedig a gymeradwywyd yn y DU.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? Nac oes.
Sut mae ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

Sut y galla i ymgeisio am swydd? Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’n gwefan Gwaith am fwy o wybodaeth.

 

Dolenni defnyddiol: