Dietegwyr Cofrestredig yw’r unig weithwyr iechyd proffesiynol sy’n asesu ac yn rhoi diagnosis a thriniaeth o broblemau maeth a dietegol i unigolion ac yn ehangach ar lefel iechyd cyhoeddus. Maent yn gweithio gyda phobl iach a phobl sâl.
Mae dietegwyr yn dehongli gwyddor maetheg er mwyn gwella iechyd a thrin afiechydon/cyflyrau trwy addysgu, rhoi cyngor ymarferol ac ysgogi cleientiaid, cleifion, gofalwyr a chydweithwyr trwy ddefnyddio technegau newid ymddygiad.
Yn aml, mae dietegwyr yn gweithio fel aelodau creiddiol o dimau amlddisgyblaethol er mwyn trin cyflyrau clinigol cymhleth fel diabetes, alergedd ac anoddefiad bwyd, anhwylderau bwyta ac anhwylderau’r coluddyn, a llawer mwy. Maent yn rhoi cyngor i arlwywyr er mwyn sicrhau gofal maeth i holl gleientiaid y GIG a lleoliadau gofal eraill fel cartrefi nyrsio. Hefyd, maent yn dylunio ac yn gweithredu rhaglenni iechyd cyhoeddus er mwyn hybu iechyd ac atal afiechydon yn ymwneud â maeth. Un o rolau allweddol dietegydd yw hyfforddi ac addysgu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill. Hefyd, maent yn rhoi cyngor ar sut i newid eich diet er mwyn osgoi sgil effeithiau a gwrthdaro rhwng meddyginiaethau.
Mae dietegwyr yn ymarfer mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys y GIG a chlinigau preifat. Gall dietegwyr weithio yn y diwydiant bwyd, y gweithle, arlwyo, addysg, chwaraeon a’r cyfryngau.
Yn y GIG, byddai swydd dietegydd cymwys lefel mynediad yn dechrau ar Fand 5; ewch i'n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.
Gyda phrofiad a hyfforddiant ychwanegol, gall dietegwyr arbenigo mewn maes clinigol. Mae’n debygol y bydd cyfrifoldebau ychwanegol, fel goruchwylio staff iau, ymchwil, addysgu neu rolau rheoli ac arwain, yn enwedig mewn rolau uwch.
Oes angen gradd arna i? | Oes, os hoffech weithio yn y GIG, bydd angen i chi gwblhau cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. |
Ym mhle galla i gael fy hyfforddi yng Nghymru? | Prifysgol Metropolitan Caerdydd. |
A oes cyllid ar gael? | Oes, ewch i Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael ac i weld a ydych yn gymwys. |
A oes cyfleoedd i ôl raddedigion? | Hefyd, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhedeg cyrsiau diploma i raddedigion mewn dieteteg; mae’r rhain yn gyrsiau 18 mis y gallwch eu dilyn os cwblhawyd gradd israddedig berthnasol. |
A oes angen profiad blaenorol arnaf er mwyn gwneud cais am y cwrs? | Mae angen profiad gwaith o fewn lleoliad dieteteg er mwyn gwneud y cwrs. O ran y datganiad personol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o brofiad gwaith a gwybodaeth am waith dietegydd, ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu. |
Sut gallaf ennill profiad? |
Mewn diwrnodau profiad gwaith a gyflwynir gan Fyrddau Iechyd ar raglen dreigl. Ewch i wefan Prifysgol Metropolitan Caerdydd am ragor o wybodaeth am eu diwrnodau profiad gwaith. I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith. |
Sut alla i ymgeisio am swydd? | Caiff holl swyddi gwag GIG Cymru eu hysbysebu ar NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth. |