Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Mae rolau o bob math ar gael o fewn y proffesiynau perthynol i iechyd. Gallwch gymryd delweddau pelydr-x, helpu â’r broses adsefydlu ar ôl i rywun dorri asgwrn neu asesu a gwneud argymhellion ar gyfer diet rhywun.

Mae gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eu llwythi achosion eu hunain, fel gweithwyr proffesiynol hunanreolus, ac maent yn gweithio’n uniongyrchol â chleifion er mwyn datblygu therapïau rhyngweithiol i’w helpu i wella. Hefyd, byddant yn rhan o dîm, ac yn arwain y tîm yn aml. Gall hyn olygu gweithio gyda gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd neu weithwyr proffesiynol fel meddygon teulu, meddygon mewn ysbytai, athrawon a/neu weithwyr cymdeithasol.

Maent yn gweithio mewn ysbytai, clinigau, gwasanaethau tai, cartrefi, ysgolion/colegau a llawer mwy, ac felly maent yn gweld cleifion a chleientiaid mewn nifer o amgylchiadau gwahanol.

Felly, p’un a oes gennych ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, y celfyddydau neu symud corfforol, mae’n siŵr y byddwch yn darganfod rôl i’ch siwtio chi. Ni waeth pa broffesiwn rydych yn ei ddewis, bydd gennych rolau sy’n ‘galluogi’ a ‘grymuso’ pobl, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i ofal cleifion.

Sylwch: Mae AHPs a Gwyddor Gofal Iechyd wedi’u grwpio ychydig yn wahanol yng Nghymru a Lloegr. Os hoffech gael gwybodaeth am radiograffwyr neu ymarferwyr adrannau llawdriniaeth, gweler ein tudalennau gwyddor gofal iechyd.