Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (Ystadau a Chyfleusterau)

Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn tîm? Mae nifer o swyddi gwahanol ym maes Ystadau a Chyfleusterau sydd oll yn werth chweil. Byddwch yn darparu gwasanaeth pwysig ni waeth a fyddwch yn cludo cleifion, yn glanhau neu’n trwsio cyfarpar technegol.

Fel gwasanaeth cymorth yn y GIG, mae staff Ystadau a Chyfleusterau yn gweithio mewn safleoedd acíwt ac yn y gymuned ymhob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth, gan wneud cyfraniad gwerthfawr i ofal iechyd a phrofiad y claf.

Yma yn GIG Cymru, rydym bob tro yn ceisio gwella profiad cyffredinol y claf a gallwch chi gyfrannu at y gwaith hwn. 

Mae Ystadau a Chyfleusterau yn cynnig amrywiaeth o swyddi mewn nifer o feysydd. I ddysgu mwy am y gwahanol swyddi ym maes Ystadau a Chyfleusterau, cliciwch ar y dolenni canlynol: