Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

Caiff rolau gweithwyr cymorth gofal iechyd eu rhannu’n aml rhwng Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (Darpariaeth Nyrsio a Therapi) a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (Ystadau a Chyfleusterau).

Mae Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (Darpariaeth Nyrsio a Therapi) yn gofalu am gleifion bob dydd yn yr ysbyty neu yn y gymuned.  Mae Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (Ystadau a Chyfleusterau) yn darparu’r gwasanaethau hanfodol hynny sy’n gwneud darparu gofal yn GIG Cymru yn bosibl. Mae’r gwasanaethau Ystadau a Chyfleusterau hyn (a elwir yn Wasanaethau Gwesty yn aml) hefyd yn cynnwys gwasanaethau gweinyddol, fel ysgrifenyddion meddygol a chofnodion meddygol. Mae pob un o’r rolau hyn yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad y GIG ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.