Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli

Fel rheolwr, gallwch chi fod yn gyfrifol am staff mewn adran gwasanaeth gyfan ynghyd â chyllideb sy’n werth miliynau o bunnoedd mewn ysbyty acíwt, am wasanaethau cymunedol, neu am adran sy’n darparu gwasanaethau mewn maes megis recriwtio.

Gall y swyddi amrywio gan ddibynnu ar sefydliad y GIG ond byddant yn sicr o gynnwys:

  • Rheoli pobl, adnoddau a chyllidebau
  • Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr clinigol
  • Gweithio gyda sefydliadau neu randdeiliaid allanol

Mae sawl dewis ar gael i’r rhai sydd am fod yn rheolwyr, er enghraifft:

  • Rheolwr Cyfarwyddiaeth Cynorthwyol
  • Rheolwr Cyfarwyddiaeth
  • Rheolwr Cyffredinol
  • Rheoli ym meysydd nyrsio, therapi, y Gwyddorau Iechyd ayyb.
  • Rheolwr Cyllid
  • Rheolwr Adnoddau Dynol

Mae GIG Cymru yn cynnwys saith Bwrdd Iechyd, tair Ymddiriedolaeth a dau sefydliad Cymru Gyfan sy’n darparu gwasanaethau i’r wlad yn ei chyfanrwydd. Bydd swyddi rheoli i’w cael ymhob un o’r sefydliadau hyn ar wahanol lefelau, ac mae sawl llwybr sy’n arwain at y strwythur rheoli; gallwch chi weithio’ch ffordd i fyny o rôl weinyddol, ar ôl ennill gradd neu’r profiad rheoli perthnasol o sector arall.

Gofynion mynediad

Mae sawl llwybr sy’n arwain at yrfa ym maes rheoli. Gofynion mynediad cyffredinol sydd isod. Ar gyfer gofynion mynediad penodol, gwiriwch fanyleb person y swydd wag unigol.

Y rhai sydd â graddau TGAU uchel/canolig a/neu brofiad gwaith

Gallwch chi ymuno â’r GIG ar lefel weinyddol a gweithio’ch ffordd i fyny i swydd reoli, â chefnogaeth cynlluniau hyfforddi mewnol ac allanol. Ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi iau, bydd angen pedwar neu bum cymhwyster TGAU arnoch chi â graddau A-C, neu gymwysterau cyfatebol.  Mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn ystyried ymgeiswyr sydd â llai o gymwysterau ffurfiol os gall yr ymgeiswyr hyn ddangos bod ganddynt y sgiliau iawn, megis profiad clerigol blaenorol er enghraifft. O bryd i’w gilydd bydd cyfleoedd i gael swydd reoli trwy brentisiaeth mewn maes gweinyddol perthnasol.

Y rhai sydd â Lefelau Uwch neu gymwysterau cyfatebol

Os oes gennych chi ddau neu dri o lefelau uwch neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, mae’n bosibl y bydd modd ichi ddechrau ar radd weinyddol uwch cyn cael swydd reoli. Bydd cynlluniau hyfforddi mewnol ac allanol yn helpu’ch cynnydd ac yn eich galluogi i roi eich sgiliau academaidd ar waith mewn sefyllfaoedd gwaith. Gall profiad gwaith blaenorol fod o fantais.

Y rhai sydd â gradd

Os oes gennych chi radd neu gymwysterau galwedigaethol cyfatebol, gallwch chi wneud cais am swyddi rheoli iau, neu wneud cais am le ar Gynllun Hyfforddi Rheolaeth y GIG i Raddedigion. Yn y cynllun hwn, gallwch chi arbenigo mewn rheoli cyffredinol, rheoli adnoddau dynol, rheoli gwybodeg, rheoli cyllid neu reoli polisi a strategaeth.

Ar y cyd â chynllun llwybr carlam i raddedigion, mae’n bosibl y bydd modd ichi wneud cais yn uniongyrchol am swyddi gwag i reolwyr iau, gan ddibynnu ar eich gradd a’ch profiad gwaith. Fel arall, gallwch chi ymuno â’r GIG neu sefydliad arall ym maes iechyd mewn rôl weinyddol, gan ennill profiad o oruchwylio staff a symud ymlaen i reolaeth gyda’r hyfforddiant a chymorth priodol.

Y rhai sydd â phrofiad o reoli eisoes

Rydym ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth bobl sydd eisoes â phrofiad ym maes rheoli yn y sector breifat neu mewn unrhyw sefydliad cyhoeddus neu wirfoddol arall. Fel arfer bydd modd ichi ymuno â ni ar lefel sy’n cyfateb i’ch sgiliau a phrofiad. Caiff rhai rheolwyr eu recriwtio ar gyfer swyddi penodol.

Y sgiliau, rhinweddau a diddordebau sydd eu hangen

Ar wahân i unrhyw gymwysterau a sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi rheoli penodol, bydd angen amrywiaeth o sgiliau a rhinweddau arnoch chi, a fydd fel arfer yn cynnwys:

  • Craffter busnes effeithiol
  • Y gallu i gyflawni pethau yn brydlon ac i'r safon ofynnol
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Sgiliau cynllunio ariannol a chyllidebu
  • Sgiliau arweinyddiaeth
  • Sgiliau trefnu
  • Parodrwydd i weithio gydag eraill ac i barchu eu barn
  • Hyder wrth ymdrin â rhifau
  • Hyder wrth weithio â thechnoleg gwybodaeth
  • Sgiliau trafod
  • Y gallu i herio'r ffordd y mae pethau ynghyd â’r gallu i ddod o hyd i ddewisiadau amgen gwell
  • Gonestrwydd a thegwch wrth ddelio â phobl eraill
  • Ymrwymiad i ddelfrydau ansawdd a thegwch wrth ddarparu gofal iechyd

Os ydych chi’n gwneud cais am swydd sydd naill ai yn y GIG neu mewn sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar ei ran, gofynnir ichi sut mae gwerthoedd y GIG yn berthnasol i’ch gwaith pob dydd. Bydd hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi'n gwneud cais am le ar gwrs prifysgol a ariennir gan y GIG. I ddarganfod rhagor, ewch i’n tudalen GIG Cymru a thudalen swyddi.

Dolenni defnyddiol: