Neidio i'r prif gynnwy

Gweinyddiaeth

Mae staff gweinyddol y GIG yn darparu cymorth busnes i staff clinigol ac anghlinigol. Mae’n rhaid i’r GIG fod yn drefnus iawn a chadw cofnodion manwl o gleifion a staff.

Mae’n rhaid i gleifion a sefydliadau eraill allu cysylltu â’r GIG, ynghyd â gallu siarad â’r person iawn neu fynd i’w weld er mwyn cael yr help sydd ei angen. Gall hyn gynnwys trefnu apwyntiad, dod o hyd i gyngor neu dalu anfoneb.

Mae rolau gweinyddol yn cynnwys:

  • Cynorthwyydd Personol
  • Derbynnydd
  • Clerc Ward
  • Gweithredwr ffôn/switsfwrdd
  • Ysgrifennydd/teipydd
  • Staff cofnodion iechyd neu feddygol

Bydd rhaid bod gennych chi sgiliau rhifedd a llythrennedd da ar gyfer unrhyw rôl weinyddol. Fel arfer bydd cyflogwyr yn gofyn am gymwysterau TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) mewn Saesneg a Mathemateg. Bydd sgiliau a chymwysterau TG yn ddefnyddiol hefyd gan fod cynifer o systemau’r GIG yn seiliedig ar TG erbyn hyn.  Byddwch chi’n defnyddio eich sgiliau rheoli amser, trefnu a chyfathrebu mewn unrhyw rôl weinyddol.

Mae digonedd o gyfleoedd ichi ennill cymwysterau pellach a chamu ymlaen yn eich gyrfa. Gallwch chi aros ym maes gweinyddiaeth, gan ddod yn arweinydd tîm neu oruchwyliwr o bosibl. Gallwch chi fynd ymlaen a dod yn rheolwr gweinyddol. Gallwch chi symud ymlaen i rolau eraill ym maes gofal iechyd hefyd. Os ydych chi’n hoff o graffau, gallwch chi ddefnyddio’ch sgiliau a phrofiad a symud i faes cyllid. Neu os mai TG sy’n mynd â’ch bryd, gallwch chi symud i faes gwybodeg.

Mae rhai staff gweinyddol, megis clercod wardiau a derbynyddion, yn gweld llawer o gleifion. Mae staff eraill, megis gweithredwyr switsfyrddau, yn gweithio mewn adeiladau pencadlys ac yn gweithio ran amlaf gyda staff gweinyddol eraill. Mae’n bosibl y bydd teipyddion, ysgrifenyddion a chynorthwywyr personol yn gweithio mewn ysbytai ac yn gweld staff gofal iechyd, ond heb weld yr un claf.

Dolenni defnyddiol: