Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid

Mae nifer o swyddi gwahanol mewn adran cyllid. Gan ddibynnu ar y swydd a lefel y cyfrifoldeb, mae’n bosibl y byddwch chi’n helpu staff clinigol i reoli eu cyllidebau a gwneud penderfyniadau allweddol yn effeithlon ynghyd â sicrhau y caiff taliadau am nwyddau a gwasanaethau eu gwneud yn brydlon ac yn gywir. Gallech chi hefyd fod â chyfrifoldeb dros sicrhau bod gan ysbytai’r offer ac adnoddau angenrheidiol.

Mae tua 1,150 o staff yn gweithio mewn swyddi cyllid yn GIG Cymru, gan gynnwys Cyfrifon Taladwy, Archwiliadau Mewnol a’r Gyflogres. Mae strwythur gwahanol i bob adran cyllid ond mae gan yr adran cyllid nodweddiadol y swyddogaethau canlynol:

  • Cyfrifyddu i Reolwyr a Datblygu Perthnasau rhwng Busnesau – Byddwch chi’n ychwanegu gwerth a herio timau gwasanaeth trwy gynllunio strategol, rheoli newid, rheoli prosiectau a risg ynghyd â chynnal dadansoddiadau busnes a rhagweld a dadansoddi perfformiad.
  • Cyfrifyddu Ariannol – Mae’r math hwn ar gyfrifyddu yn sicrhau bod y llyfr cyfrifon yn gywir. Gwneir hyn trwy sicrhau y cofnodir yr holl arian, incwm a gwariant a bod hyn wedi ei wneud yn ôl gofynion cyfrifyddu Llywodraeth Cymru.
  • Cyfrifyddu Cyfalaf – Mae’r math hwn ar gyfrifyddu yn gweithio gyda gwasanaethau rheng flaen er mwyn manteisio i’r eithaf ar fuddsoddiadau cyfalaf.
  • Cynllunio Ariannol – Nod hyn yw sicrhau bod strategaeth ariannol y sefydliad yn cyd-fynd â’r strategaethau a’r cynlluniau ar gyfer gwasanaethau, gweithgareddau a’r gweithlu ynghyd â darparu  cysylltiad allweddol â’r broses o gynllunio gwasanaethau yn y tymor canolig.
  • Costio a Deallusrwydd Busnes – Byddwch chi’n gweithio’n agos gydag arweinwyr gwasanaethau rheng flaen er mwyn eu helpu i ddeall arwyddocâd llawn yr adnoddau maent yn ymrwymo iddynt ynghyd â’r allbynnau maent yn eu darparu. Nod hyn yw hwyluso perfformiad gwasanaethau a’r gwaith o’u moderneiddio

Trwy wella’ch dealltwriaeth ac ennill rhagor o brofiad, gallech chi gamu ymlaen yn eich gyrfa i rolau mwy technegol a dadansoddol. Bydd rhagor o brofiad a’r cymwysterau perthnasol wedyn yn eich galluogi i wneud cais am rolau uwch, megis Cyfrifydd Partner Busnes, Pennaeth Cyllid a Chyfarwyddwr Cyllid yn y pendraw.

Bydd gweithio ym maes cyllid yn y GIG yn eich herio ac yn rhoi’r cyfle ichi ddefnyddio a datblygu ystod eang o sgiliau. Trwy hyn byddwch chi’n dod yn rhan o dîm technegol a phroffesiynol â sgiliau uchel, sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd gofal cleifion yng Nghymru.

Os oes diddordeb gennych chi mewn gyrfa ym maes cyllid yn y GIG ewch i’r Academi Gyllid.