Neidio i'r prif gynnwy

Cyfreithiol a Risg

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn dîm o gyfreithwyr mewnol sy’n cynnig cyngor cyfreithiol pwrpasol i’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau yng Nghymru yn unig.

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn cynnig cyngor cyfreithiol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys y meysydd canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

  • Esgeulustod Meddygol -  hawliadau esgeulustod meddygol bach a mawr mewn perthynas â materion fel cydsyniad a hawliadau deintyddol.
  • Anafiadau Personol - hawliadau yn sgil llithro / baglu, straen yn y gweithle  a hawliadau yn sgil trais ac ymddygiad ymosodol.
  • Cyfraith Fasnachol - ystod eang o gontractau masnachol (gan weithio’n agos gyda Gwasanaethau Caffael), casglu dyledion ac adolygiadau barnwrol.
  • Cyfraith Cyflogaeth - gwahaniaethu, hawliadau am ddiswyddo annheg, chwythu’r chwiban ac ystod eang o faterion digynnen sy’n effeithio ar GIG Cymru yn ei gyfanrwydd.
  • Cyfraith Eiddo - materion yn ymwneud â lesddaliadau a rhydd-ddaliadau, pryniant a gwerthu.
  • Anghenion Cymhleth - materion yn ymwneud ag iechyd meddwl, amddifadu o ryddid, penderfyniadau yn ymwneud â diwedd oes a phob mater sy’n mynd i’r Llys Gwarchod.
  • Cyngor cyffredinol am ofal iechyd - Cyngor ar yr agweddau hynny o gyfraith feddygol nad yw adrannau eraill fel arfer yn ymdrin â hwy Mae hyn yn cynnwys cyngor ar geisiadau am gyllid i dalu am driniaeth, hysbysiadau i’r DVLA, materion preifatrwydd a diogelu data.

Mae’r adran hefyd yn cynrychioli’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaethau mewn cwestau a gall gynnig cyngor am reoliadau Unioni Cam.

Mae’r math o waith y byddech yn ei wneud yn amrywiol, ac mae’n dibynnu ar y maes cyfreithiol sydd o ddiddordeb ichi. Dyma flas ar rai o’r pethau y gall fod disgwyl ichi eu gwneud:

  • Cynnal ymchwiliadau a rhoi cyngor cyfreithiol
  • Ymchwilio i gyfraith achosion a rheoliadau
  • Cyfarwyddo arbenigwyr (arbenigwyr meddygol, bargyfreithwyr ac arbenigwyr costau)
  • Mynd i gynadleddau
  • Cyfweld â thystion a chymryd datganiadau ganddynt
  • Drafftio dogfennau cyfreithiol
  • Adolygu dogfennau, megis contractau, polisïau a phrotocolau
  • Cynrychioli'r Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth yn y llys neu dribiwnlys
  • Negodi setliadau iawndal neu gostau

Yn ogystal â’r hyn sydd wedi ei nodi uchod, byddai disgwyl ichi roi hyfforddiant i’ch cleientiaid ar amrywiaeth o bynciau cyfreithiol, fel cadw cofnodion, datgelu a drafftio datganiadau tyst.

Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn ymrwymedig i addysg barhaus. Yn unol â gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, darperir hyfforddiant rheolaidd i bob aelod o staff sy’n ennill ffi a bydd disgwyl ichi fynychu’r sesiynau hyn yn rheolaidd.

Gan fod gan yr adran Safon Sicrwydd Ansawdd Lexcel er 2002 ac achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, byddai disgwyl ichi fod yn broffesiynol bob amser.

Os ydych chi’n credu eich bod yn drefnus, â llygad barcud am fanylion a sgiliau cyfathrebu gwych, ac yn angerddol am amddiffyn GIG Cymru, yna gallai swydd yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg fod yn ddelfrydol ichi.

Gofynion mynediad:

Mae sawl llwybr sy’n arwain at yrfa gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Gall y rhai sydd â gradd yn y Gyfraith, neu’r rhai sy’n astudio gyda Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel paragyfreithiwr. Os ydych chi wedi astudio Cwrs Ymarfer y Gyfraith, gallwch wneud cais am swydd Cyfreithiwr Dan Hyfforddiant.

Gall cyfreithwyr dan hyfforddiant neu aelodau graddedig o Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol, sy’n mynd ymlaen i gwblhau cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, wneud cais am rôl gymwysedig fel cyfreithiwr neu weithredwr cyfreithiol.

Gall cyfreithwyr neu weithredwyr cyfreithiol fynd ymlaen i rôl oruchwylio. Gall y rhai sydd â phrofiad o reoli fynd ymlaen i rôl Arweinydd Tîm.

Mae nifer o swyddi gweinyddol ac ysgrifenyddol ar gael hefyd yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae dealltwriaeth dda o dechnoleg gwybodaeth, sgiliau teipio rhagorol a sgiliau trefnu da ymhlith y nodweddion sy’n ofynnol ar gyfer y rolau hyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg.