Neidio i'r prif gynnwy

Cyfathrebu

Mae pobl sy’n gweithio mewn timau cyfathrebu yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu ag ystod eang o bobl, megis cleifion, staff, gweithwyr yn y cyfryngau, cyflenwyr ac aelodau o dimau cyfathrebu mewn sefydliadau eraill.

Mae gan bob sefydliad yn y GIG arweinydd cyfathrebu, er mwyn sicrhau bod y sefydliad yn cyfathrebu’n effeithiol. Mewn sefydliadau mwy, mae’n debyg y byddwch yn rhan o dîm.

Er nad yw’r rhestr isod yn gynhwysfawr, gallai’r cyfrifoldebau hyn fod yn rhan o’ch swydd (gan ddibynnu ar brofiad):

  • Sicrhau bod y sefydliad yn cyfathrebu’n effeithiol â phob rhanddeiliad
  • Rheoli digwyddiadau a ffotograffiaeth
  • Marchnata (cyffredinol a digidol), fel cynhyrchu gwybodaeth o ansawdd uchel i gleifion a rhedeg ymgyrchoedd marchnata i hybu iechyd
  • Cymryd cyfrifoldeb golygyddol dros wefan y sefydliad a thros gyfryngau eraill y mae’r sefydliad yn eu defnyddio i gyfathrebu
  • Llunio, gweithredu a gwerthuso strategaethau cyfathrebu, gan gynnwys presenoldeb y sefydliad ar y we
  • Cymryd yr awenau wrth ddelio ag ymholiadau gan y cyfryngau a chyhoeddi datganiadau i’r wasg
  • Rheoli hunaniaeth gorfforaethol y sefydliad
  • Rheoli enw da’r sefydliad

Cymwysterau, profiad ac aelodaethau

Mae angen gradd baglor (BA) ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi lefel mynediad ym maes cyfathrebu. Mae angen bod yn brofiadol er mwyn mynd ymlaen i rôl Rheolwr Cyfathrebu, ac mae’n bosibl y bydd y rhai sydd â gradd MA yn cael blaenoriaeth.

Gall arbenigo mewn cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus neu farchnata eich paratoi ar gyfer y rôl hefyd. Gall cymwysterau a sgiliau defnyddiol eraill gynnwys: rheoli prosiectau (fel Prince 2), dealltwriaeth o feddalwedd Adobe (fel InDesign), ffotograffiaeth a newyddiaduraeth.

Mae’n rhaid i Reolwyr Cyfathrebu fod â sgiliau ysgrifenedig a llafar rhagorol, ynghyd â sgiliau arweinyddiaeth er mwyn cyfarwyddo staff a goruchwylio prosiectau. Mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu ddatblygu sgiliau ymchwil a phrawf ddarllen hefyd, er mwyn sicrhau bod deunydd yn gywir ac o ansawdd uchel.

Yn aml, mae gweithwyr proffesiynol ym maes cyfathrebu yn aelodau, ac wedi ennill cymwysterau, o Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR), Cymdeithas Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu (PRCA) a Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM). Ond nid yw hyn yn orfodol.

Dolenni defnyddiol: