Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Corfforaethol

Mae’n bosibl nad ydych chi’n ymwybodol o’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym maes iechyd. Mae staff mewn nifer o feysydd pwysig yn darparu gwasanaethau creiddiol y mae’r sefydliad cyfan yn dibynnu arnynt.

Mae staff corfforaethol yn gweithio y tu ôl i’r llenni mewn meysydd fel cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau cyfreithiol. Gyda’i gilydd, maent yn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd cyfoes yn darparu’r math o ofal y mae’r cyhoedd yn disgwyl ei dderbyn.

Ydych chi erioed wedi ystyried gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes cyllid, sy’n gyfrifol am ddadansoddi cyllidebau? Neu efallai eich bod yn credu mai gweithio ym maes adnoddau dynol yn y GIG yw’r cyfle delfrydol ichi ddatblygu’ch gyrfa.

I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael a sut i ddatblygu’ch gyrfa yng ngwasanaethau corfforaethol y GIG, cliciwch ar y dolenni canlynol: