Neidio i'r prif gynnwy

Technegydd fferyllfa

Beth yw technegydd fferyllfa?

Mae technegwyr fferyllfa yn aelodau medrus ac hanfodol o’r tîm fferylliaeth sy’n rheoli’r gwaith o gyflenwi meddyginiaethau ac yn cynorthwyo fferyllwyr wrth iddynt gynghori cleifion a’r cyhoedd.

Ai fferylliaeth yw’r yrfa iawn imi?

Proffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yw fferylliaeth, a bydd rhaid bod gennych chi ddiddordeb yn yr hyn y mae meddyginiaethau yn ei wneud yn y corff dynol ynghyd â’u defnydd, a hefyd mewn darparu cyngor gofal iechyd.

Fel technegydd fferyllfa, bydd rhaid eich bod yn meddu ar y nodweddion canlynol:

  • Gofalgar
  • Da gyda phobl ac â’r gallu i’w hysgogi
  • Â’r gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ynghyd â’r gallu fod yn fentrus

Beth mae technegwyr fferyllfa yn ei wneud?

Mae technegwyr fferyllfa yn helpu pobl i ddeall sut i gymryd eu meddyginiaethau a’u defnyddio’n ddiogel. Mae’r technegydd fferyllfa yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, megis fferyllwyr, meddygon a nyrsys, er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau yn barod yn ôl yr angen. 

Mae technegwyr fferyllfa yn darparu rhai gwasanaethau mewn fferyllfeydd, a hynny er mwyn arbed pob rhag gorfod trefnu apwyntiad â’u meddyg.  Technegwyr fferyllfa sy’n rhedeg prosesau rhoi presgripsiwn mewn fferyllfeydd.  Mae hyn yn cynnwys goruchwylio aelodau eraill yn y tîm fferyllol sy’n cael rhoi presgripsiynau.  Mae nifer o feysydd y gall technegwyr fferyllfa roi cyngor arnynt, o feddyginiaethau a werthir dros y cownter i sut i fyw’n iach, cyn gorfod cyfeirio pobl at y fferyllydd.

Mae technegwyr fferyllfa yn gweithio gydag ystod eang o bobl er mwyn rheoli eu cyflyrau a chynnal iechyd da:

  • Plant - afiechydon plentyndod cyffredin: brech yr ieir, rhwymedd, llau pen
  • Afiechydon hirdymor: asthma, pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, diabetes
  • Yr henoed - monitro am sgil-effeithiau a stopio meddyginiaethau

Ymhle mae technegwyr fferyllfa yn gweithio?

Yn GIG Cymru, mae technegydd fferyllfa yn gweithio mewn fferyllfa wrth wneud cwrs dysgu o bell er mwyn cyflawni BTEC Tystysgrif Genedlaethol Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferyllfa.  Bydd rhaid cwblhau dysgu yn seiliedig ar y gwaith ac asesiadau hefyd er mwyn cyflawni Lefel 3 NVQ (QCF) Diploma mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllfa.

Mae hyfforddi a gweithio fel technegydd fferyllfa yn cynnig y cyfle i weithio mewn sawl lleoliad, gan gynnwys:

  • Fferyllfeydd cymunedol
  • Syrjeris meddygon teulu
  • Cartrefi nyrsio
  • Ysbytai
  • Unedau gweithgynhyrchu steril arbenigol
  • Colegau addysg bellach

Faint mae technegwyr fferyllfa yn ei ennill?

Y cyflog GIG ar gyfer technegwyr fferyllfa sydd newydd gymhwyso yw Band 4; gweler ein hadran Cyflog a Buddion am ragor o wybodaeth. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael i dechnegwyr fferyllfa gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae fferylliaeth yn cynnig llawer o opsiynau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Ar ôl ichi gymhwyso ac ennill y profiad clinigol neu arbenigol neu brofiad rheoli priodol, gallech chi ddod yn:

  • Dechnegydd Gwirio achrededig mewn ysbyty neu yn y gymuned
  • Technegydd Rheoli Meddyginiaethau ar ward arbenigol
  • Technegydd Cymorth Presgripsiynau mewn gofal sylfaenol
  • Asesydd NVQ
  • Rhywun sy’n gyfrifol am reoli rhan o uned gweithgynhyrchu
  • Cadwyn fferyllfeydd cymunedol

Sut y galla i ddod yn dechnegydd fferyllfa?

Oes angen gradd arna i? Nag oes, os hoffech chi weithio fel technegydd fferyllfa, bydd rhaid ichi gwblhau cwrs sydd wedi ei gymeradwyo  gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol er mwyn dangos bod gennych chi’r wybodaeth a chymwyseddau angenrheidiol.  Ar ôl gwneud hynny, gallwch chi ymuno â’r gofrestr a dechrau ymarfer.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru?

Caiff swyddi dan hyfforddiant eu hysbysebu â chontractau tymor penodol am ddwy flynedd ar NHS Jobs. Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth.

Bydd cadwyni fferyllfeydd cymunedol mawr yn hysbysebu eu cyfleoedd ar eu gwefannau.

Oes cyllid ar gael? Yn ystod y rhaglen hyfforddi ddwy flynedd, 70-75% o gyflog Band 4 yw’r cyflog.
Oes cyfleoedd ôl-gofrestru? Oes, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol ar gyfer arweinyddiaeth trwy esiampl, addysg a datblygiadau hyfforddiant ac unedau Agored Lefel 4.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? Bydd unrhyw brofiad mewn rôl gofal yn fanteisiol.  Bydd profiad o weithio gyda’r cyhoedd ynghyd â phrofiad o weithio mewn tîm ac o arwain hefyd yn fanteisiol.
Sut mae ennill profiad? Cysylltwch â chyflogwyr unigol er mwyn trefnu ymweliad. I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd i wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch i'n hadran Gwaith.
Sut galla i ymgeisio am swydd?

Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd cadwyni fferyllfeydd mawr hefyd yn hysbysebu ar eu gwefannau eu hunain.

Dolenni defnyddiol: