Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllydd

Ai fferylliaeth yw’r yrfa iawn imi?

Proffesiwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yw fferylliaeth, a bydd rhaid bod gennych chi ddiddordeb mewn cemeg, ffisioleg a darparu cyngor gofal iechyd.

Fel fferyllydd, bydd rhaid ichi fod:

  • Yn ofalgar
  • Yn dda gyda phobl ac â’r gallu i’w hysgogi ac
  • Â’r gallu i weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ynghyd â’r gallu fod yn fentrus

Beth yw fferyllydd?

Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau a sut i’w defnyddio. Mae eu gwybodaeth am sut y mae meddyginiaethau yn gweithio yn y corff dynol yn hanfodol wrth helpu pobl sydd â phob math o afiechyd i aros yn iach am gyfnod hwy.

Beth mae fferyllwyr yn ei wneud?

Mae fferyllwyr yn helpu pobl i ddefnyddio’u meddyginiaethau yn ddiogel. Mae’r fferyllydd yn cynghori gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, fel meddygon a nyrsys, ynghylch beth yw’r meddyginiaethau mwyaf priodol i unigolion a sut i’w presgripsiynu a’u rhoi er mwyn cael y canlyniad sydd eisiau.

Yn aml, mae fferyllwyr wedi eu hyfforddi i roi meddyginiaethau a brechiadau yn annibynnol ar feddyg. Maent hefyd yn darparu nifer o wasanaethau fel nad oes rhaid i bobl drefnu apwyntiad i weld eu meddyg teulu. Mae fferyllwyr yn goruchwylio aelodau eraill o’r tîm fferyllol sy’n gallu rhoi presgripsiynau, ynghyd â rhoi cyngor am feddyginiaethau y mae modd eu prynu dros y cownter ac am fyw’n iach.

Mae fferyllwyr yn gweithio gydag ystod eang o bobl er mwyn rheoli eu cyflyrau a chadw’n iach:

  • Plant - afiechydon plentyndod cyffredin: brech yr ieir, rhwymedd, llau pen
  • Afiechydon hirdymor: asthma, pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, diabetes
  • Yr henoed - monitro am sgil-effeithiau a stopio meddyginiaethau

Ble mae fferyllwyr yn gweithio?

Mae hyfforddi a gweithio fel fferyllydd yn cynnig y cyfle i weithio mewn sawl lleoliad, gan gynnwys:

  • Fferyllfeydd cymunedol
  • Syrjeris meddygon teulu
  • Cartrefi nyrsio
  • Ysbytai
  • 111 Cymru
  • Prifysgolion (ymchwil a’r byd academaidd)
  • y diwydiant fferyllol

Pa oriau mae fferyllwyr yn eu gweithio?

Fel arfer mae fferyllwyr yn gweithio am wythnos safonol, sef 37.5 awr, yn y GIG. O bryd i’w gilydd bydd disgwyl iddynt weithio yn gynnar yn y bore, yn y nos, ar y penwythnosau ac ar wyliau’r banc yn ôl rota. Mae rhai fferyllwyr yn darparu gwasanaethau ar alw i’w hysbyty dros nos. Mewn sefydliadau eraill, gall yr oriau amrywio. Mae llawer o fferyllwyr yn dewis gweithio’n rhan amser.

Faint mae fferyllwyr yn ei ennill?

Yn GIG Cymru, cyflog cychwynnol fferyllydd cyn cofrestru yw Band 5. Bydd cyflog fferyllydd sydd newydd gofrestru yn Band 6 yn y GIG; ewch I’n hadran am Gyflog a Buddion am ragor o wybodgeth.

Gall cyflogau yn y sector breifat amrywio, ond fel arfer maent yn debyg i’r rhai yn y GIG.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fferyllwyr gamu ymlaen yn eu gyrfa?

Mae fferylliaeth yn cynnig llawer o opsiynau cyflogaeth gwahanol a hyblyg. Ar ôl ichi gymhwyso ac ennill y profiad clinigol ac ariannol priodol, gallech chi ddod yn:

  • Cynghorydd presgripsiynu mewn gofal sylfaenol
  • Presgripsiynydd mewn practis meddyg teulu
  • Fferyllydd annibynnol ar gontract â’ch fferyllfa eich hun
  • Rheolwr gwasanaethau mewn ysbyty
  • Rheolwr rhanbarthol i gadwyn o fferyllfeydd cymunedol
  • Darlithydd prifysgol
  • Fferyllydd ymgynghorol mewn arbenigedd clinigol

Sut galla i ddod yn fferyllydd?

Oes angen gradd arna i? Oes. Os ydych chi am fod yn fferyllydd bydd rhaid ichi gwblhau cwrs MPharm sydd wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol a blwyddyn hyfforddi cyn cofrestru. Rydych chi’n llwyddo yn eich blwyddyn hyfforddiant cyn cofrestru os caiff eich perfformiad ei gymeradwyo gan eich tiwtor yn y gweithle ac mae modd ichi wneud yr asesiad cofrestru terfynol.  Ar ôl gwneud hynny, gallwch chi ymuno â’r gofrestr a dechrau ymarfer.
Ymhle galla i hyfforddi yng Nghymru?

Ewch i dudalen Addysg Cyn Cofrestru am ragor o wybodaeth.

Oes cyllid ar gael? Oes, am ragor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a chymhwysedd ar ei gyfer, ewch i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.
Oes angen profiad arna i er mwyn ymgeisio ar gyfer y cwrs? Bydd meddu ar unrhyw brofiad mewn rôl ofal, yn broffesiynol ac yn bersonol, yn fanteisiol. Bydd profiad o weithio gyda’r cyhoedd ynghyd â phrofiad o weithio mewn tîm ac o arwain hefyd yn fanteisiol.
Sut mae ennill profiad?

I ddysgu am brofiad gwaith a chyfleoedd I wirfoddoli yn GIG Cymru, ewch I’n hadran Gwaith.

 

Mae gwybodaeth ddefnyddiol am ddod o hyd i brofiad gwaith ar gael ar wefan Pharmacist Support hefyd.

Sut y galla i ymgeisio am swydd?

Hysbysebir pob swydd yn GIG Cymru ar wefan NHS Jobs. Ewch i’r adran Gwaith i gael rhagor o wybodaeth.

Mae gan gyhoeddiadau ym maes fferylliaeth fel y Chemist and Druggist adran swyddi hefyd. Yn ogystal â hyn mae’r cadwyni fferyllfa mawr yn hysbysebu swyddi ar eu gwefannau eu hunain.

Dolenni defnyddiol: