Neidio i'r prif gynnwy

Fferylliaeth

Y Tîm Fferyllol

Mae gan aelodau gwahanol o’r tîm fferyllol sgiliau a chymwysterau gwahanol, sy’n cael eu defnyddio i ddarparu ‘gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’.  Mae hyn yn ymwneud â helpu unigolion i ddefnyddio’u meddyginiaethau yn ddiogel ac i aros yn iach yn hirach.

Ble bynnag y bo meddyginiaethau, bydd aelod o’r tîm fferyllol.  Gall hyn fod mewn ysbyty, archfarchnad, fferyllfa ar y stryd fawr, cartref nyrsio, syrjeri meddyg teulu, canolfan alwadau Galw Iechyd Cymru neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun.

Mae’n rhaid ichi fod yn weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig i wneud rhai swyddi ym maes fferylliaeth:

Fodd bynnag, mae nifer o gyfleoedd i staff cynorthwyol anghofrestredig mewn timau, fferyllol, a chaiff hyfforddiant ei roi yn y swydd ar gyfer y rhain fel arfer:

  • Cynorthwywyr fferyllol
  • Arweinwyr prosiect a thechnoleg gwybodaeth
  • Timau rhoi’r gorau i ysmygu
  • Swyddogion clerigol