Neidio i'r prif gynnwy

Bydwreigiaeth

Beth yw bydwraig?

Gweithiwr iechyd proffesiynol yw bydwraig sydd wedi'i hyfforddi i gynorthwyo merched drwy feichiogrwydd, esgoriad (genedigaeth) a chyfnod ôl-enedigol cynnar.

Ai bydwreigiaeth yw'r yrfa i mi?

Mae bydwreigiaeth yn ddewis gyrfa poblogaidd sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol a gwerthfawr. Mae’n ofynnol bod gennych ddiddordeb mewn iechyd a lles merched. Hefyd, mae angen y gallu arnoch i ymdopi â chyfrifoldeb sy’n dwysáu yn sgil sefyllfaoedd heriol.

Mae’r nodweddion personol sy'n addas ar gyfer yr yrfa hon yn cynnwys:

  • Agwedd ofalgar a thosturiol
  • Ymreolaeth
  • Dibynadwyedd
  • Angerdd
  • Natur drefnus gyda'r gallu i flaenoriaethu gofynion
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol
  • Aelod tîm effeithiol
  • Un sy’n eiriol dros ferched

Beth mae bydwragedd yn ei wneud?

Y fydwraig yw'r gweithiwr proffesiynol arweiniol yn achos genedigaethau arferol merched beichiog. Mae bydwragedd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr obstetreg a phartneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn achos beichiogrwydd sy’n fwy cymhleth ei natur. Gall hyn gynnwys cymhlethdodau corfforol, cymdeithasol a seicolegol.

Mae bydwragedd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i ferched a'u teuluoedd er mwyn cefnogi dewisiadau deallus. Mae dyletswyddau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Archwilio a monitro merched beichiog
  • Asesu lles y ffetws yn ystod beichiogrwydd ac esgoriad
  • Asesu gofynion gofal a chynllunio gofal
  • Cynnal sgriniadau
  • Cadw cofnodion gofal eglur
  • Ymgymryd â gofal cynenedigol mewn cartrefi, ysbytai a phractisau meddygon teulu
  • Darparu cefnogaeth gyfannol a gwybodaeth i ferched a'u partneriaid
  • Darparu cefnogaeth ymarferol a seicolegol i ferched a theuluoedd yn ystod y broses eni
  • Cefnogi teuluoedd wrth iddynt ymaddasu i rolau rhieni
  • Cynnig cymorth profedigaeth mewn achosion o golli plentyn
  • Hyfforddi a mentora myfyrwyr bydwreigiaeth a staff iau

Ble mae bydwragedd yn gweithio?

Mae bydwragedd yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys yng nghartrefi merched, mewn clinigau iechyd lleol, canolfannau geni ac ysbytai.

Faint (o gyflog) mae bydwragedd yn ei ennill?

Bydd cyflog cychwynnol bydwraig sydd newydd gymhwyso ar raddfa band 5 a bydd yn codi ar yr amod bod cymwyseddau preceptoriaeth yn cael eu cyflawni. Gweler ein hadran Cyflogau a Buddion i gael rhagor o wybodaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fydwraig gamu ymlaen yn ei gyrfa?

Mae yna lawer o gyfleoedd i gamu ymlaen mewn gyrfa i arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb, er enghraifft camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl amenedigol. Mae rhai bydwragedd yn symud ymlaen i rolau arweinyddiaeth glinigol mewn canolfannau geni, timau cymunedol ac ar wardiau geni. Mae cyfran lai o fydwragedd yn symud i swyddi rheolaethol, gan gynnwys rolau fel Pennaeth Bydwreigiaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd. Mae'r rhan fwyaf o Fyrddau Iechyd yn cynnwys rolau Bydwragedd Ymgynghorol yn eu sefydliadau.

Sut ydw i'n dod yn fydwraig?

Oes angen gradd arna i?

Oes, os ydych am weithio i’r GIG bydd angen i chi gwblhau cwrs wedi ei gymeradwyo gan Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Ble alla i gael hyfforddiant yng Nghymru?

A oes cyllid ar gael?

Oes, i gael rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael a'ch cywmhwysedd i'w dderbyn, ymwelwch â’r Gwasanaeth Gwobreuo Myfyrwyr.

A oes cyfleoedd ôl-radd i’w cael?

Mae yna lawer o gyfleoedd ôl-raddedig i ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau a chefnogi dilyniant eich gyrfa. Mae enghreifftiau'n cynnwys cwrs Archwiliadau Babanod Newydd-anedig, Cynnal Bywyd Uwch mewn Obstetreg a llawer o lwybrau i astudio ar lefel meistr neu ddoethuriaeth.

Sut mae ennill profiad?

Nid yw'r rhan fwyaf o ysbytai yn cynnig profiadau seiliedig ar waith mewn adrannau mamolaeth. Gallwch wneud cais i dreulio amser gyda bydwraig i drafod ei rôl ac mae rhai grwpiau cymorth a phrosiectau cymunedol yn cynnig cyswllt â merched a babanod.

Sut mae gwneud cais am swydd?

Mae pob swydd wag ar gyfer GIG Cymru yn cael ei hysbysebu ar Swyddi'r GIG. Ewch i’n hadran Waith i gael rhagor o wybodaeth.

Dolenni defnyddiol: