Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio

Mae mwy na 350 o wahanol rolau yn y GIG, pob un ohonyn nhw’n hanfodol bwysig. Yn yr adran hon, mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i’r rôl fydd yn berffaith i chi. 

Caiff pob swydd wag yng Nghymru a Lloegr ei hysbysebu ar NHS Jobs; dyna ryw 25,000 o swyddi gwag bob mis, a chaiff swyddi newydd eu hychwanegu bob dydd!

Sut allwch chi gadw golwg ar y swyddi? Crëwch gyfrif! Cewch chi wybod am swyddi newydd wrth iddynt agor a bydd modd ichi raglenwi rhannau o’r ffurflen gais,  felly bydd ymgeisio am eich swydd ddelfrydol yn gyflymach.

Mae cyngor ar NHS Jobs ynghylch chwilio am y swydd ddelfrydol, ynghyd â chyngor defnyddiol iawn am gamau nesaf eich cais; o gyflwyno cais llwyddiannus i ddelio â’r cyfweliad.

Felly beth ydych chi’n aros amdano? Crëwch eich cyfrif heddiw!

Recriwtio yn seiliedig ar werth

Mae recriwtio yn seiliedig ar werth yn sicrhau ein bod yn cyflogi’r gweithlu iawn gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd iawn fel bod modd darparu gofal rhagorol i gleifion. Felly os ydych chi’n gwneud cais am gwrs a ariennir gan y GIG neu am swydd gyda ni, bydd rhaid ichi ddangos bod eich gwerthoedd a’ch ymddygiad yn cyd-fynd â’n rhai ni.

I gael gwybod mwy, ewch i wefan GIG Cymru.