Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogau a Buddion

Pam byddech chi eisiau gweithio yn GIG Cymru?

Dyma saith rheswm gwych:

  1. Mae’n yrfa werth chweil sydd â chyfleoedd gwych!
    Mae dewis o dros 350 o rolau, felly gallwch dreulio’ch gyrfa gyfan yn GIG Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’ch cymuned leol.
  2. Byddwn yn buddsoddi ynoch chi
    Rydym yn talu ffioedd nifer o raddau gofal iechyd ac mae bwrsariaethau ar gael hefyd.
  3. Does dim rhaid ichi fynd i’r brifysgol i weithio yn GIG Cymru.
    Byddwn yn eich hyfforddi yn y swydd, felly gallwch chi ennill cyflog wrth ddysgu!
  4. Byddwn yn eich helpu i fwrw ymlaen yn eich gyrfa
    Bydd yr adolygiad gwerthuso a datblygu perfformiad blynyddol yn cefnogi’ch dyheadau gyrfaol.
  5. Ydych chi am fwynhau’ch gwaith? Fe fyddwch chi!
    Gan ein bod yn dod â phobl o’r un anian at ei gilydd, byddwch mewn cwmni da.
  6. Mwynhau cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd
    Os nad oedd 28 diwrnod o wyliau a gwyliau banc yn ddigon, gallwch hefyd brynu gwyliau ychwanegol. Mae gennym hefyd amrywiaeth o batrymau gweithio hyblyg a gwelliannau ar gyfer gweithio ar benwythnosau.
  7. Mae barnau ein gweithwyr yn bwysig inni
    Rydym yn ymgynghori â’n staff yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau trwy eu gwahodd i gwblhau arolygon staff.

Buddion

Mae llawer iawn o fuddion a dyma rai ohonyn nhw:

  • Codiadau cyflog graddol
  • Wythnos waith arferol o 37.5 awr
  • Taliadau ychwanegol am sifftiau, goramser neu am weithio y tu allan i oriau
  • 28 diwrnod (gwyliau) a gwyliau banc, gyda nifer y gwyliau a gewch chi yn cynyddu yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth
  • Mae Cynllun Pensiwn y GIG yn un o’r cynlluniau mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU.
  • Gwasanaethau cwnsela ac iechyd galwedigaethol
  • Disgowntiau GIG
  • Trefniadau gweithio hyblyg fel bod modd taro’r cydbwysedd iawn rhwng bywyd a gwaith
  • Talebau Gofal Plant

Cyflog

Mae graddfeydd cyflog Agenda ar gyfer Newid GIG Cymru yn sicrhau cyflog teg i holl weithwyr y GIG. Mae swyddi'n cael eu categoreiddio mewn bandiau sydd â graddfeydd cyflog penodol wedi'u neilltuo. Bydd gweithwyr yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog ar gyfer eu band ac yn cynyddu i'r brig dros amser.

Mae manylion y graddfeydd cyflog penodol ar gyfer pob band ar gael.