Neidio i'r prif gynnwy

Ystyried eich gyrfa

Pobl yn edrych

Bydd eich effeithiolrwydd yn eich gyrfa yn dibynnu ar eich addasrwydd chi fel person i’r rôl a’r amgylchedd gwaith. Mae hunanymwybyddiaeth a mewnwelediad personol yn allweddol wrth gynllunio a dewis gyrfa. 

Bydd angen i’ch dewis o waith mewn meddygaeth fod yn addas ac yn gymesur â ffactorau eraill yn eich bywyd ac mae dyheadau unigolion o ran gyrfa yn amrywio hefyd. 

Mae llu o gyfleoedd gyrfa i feddygon, yn cynnwys: 

  • Hyfforddiant Arbenigol mewn Gofal Sylfaenol ac Eilaidd 
  • Rolau meddygon GIG a meddygon arbenigol 
  • Gyrfaoedd academaidd, addysgu neu ymchwilio 
  • Opsiynau mewn lleoliadau eraill 

Gallwch lawrlwytho’r adnoddau canlynol i’ch helpu i ystyried beth rydych am ei gael yn eich gyrfa a’ch helpu i edrych ar opsiynau. 

Mae polisi tîm Gyrfaoedd Meddygol a Sylfaen AaGIC ar flasu gyrfaoedd yn helpu hyfforddeion Sylfaen i ddeall y broses ar gyfer Cynllunio Blas ar Yrfa, yn cynnwys rhestr gyfredol o gyrsiau blas ar yrfa mewn Byrddau Iechyd. Gall meddygon sylfaen gysylltu ag adrannau’n uniongyrchol hefyd. Os yw meddyg sylfaen yn chwilio am yrfa ym maes Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.  

Dolenni allanol: 

Mae fideos a thaflenni ar arbenigeddau ar gael sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr arbenigeddau: