Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddyd gyrfaoedd

Pobl yn siarad

Ni fu erioed gymaint o strwythurau a phrosesau ar gael i’ch helpu i ddatblygu’ch gyrfa ar hyd eich llwybr hyfforddi. Wrth gamu ymlaen mewn gyrfa feddygol, bydd angen cymorth weithiau gyda’r canlynol:

  • Amheuon yn y misoedd cyntaf mewn rhaglen hyfforddi newydd
  • Ansicrwydd am y llwybr a ddewiswyd
  • Dim opsiynau pendant ar ôl cylch recriwtio
  • Diffyg cynnydd yn y llwybr a ddewiswyd
  • Newidiadau mewn amgylchiadau personol e.e. iechyd, teulu
  • Meddwl am ymddiswyddo

Yn y lle cyntaf, bydd nifer o bobl ar gael ar lefel leol i gynnig cyngor ac arweiniad. Mae’r Canllaw Dewisiadau Cymorth Gyrfaoedd yn dangos y cymorth sydd ar gael ar bob cam yn eich gyrfa feddygol ar lefel leol, lefel uwch a lefel AaGIC. Cliciwch ar enw’r rôl yn y "pyramid cymorth" i gael gwybod pwy sydd ar gael a pha fath o ymholiadau y mae’n gallu delio â nhw. Mae’r rolau hyn yn cynnwys:

Dolenni mewnol

  • Uned cymorth proffesiynol AaGIC
  • Yn ystyried gweithio Llai nag Amser Llawn (LlALl) am ran o’ch gyrfa? Mae gan bob rhaglen hyfforddi ei gynghorydd LlALl sy’n gallu’ch helpu i ystyried yr opsiynau.
  • Mae’r rhaglen Iechyd i weithwyr iechyd proffesiynol yn wasanaeth cwnsela cyfrinachol sy’n cael ei ariannu’n llawn ar gyfer yr holl feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru.
  • Mae cymorth gyrfaoedd ar gael i Israddedigion Meddygol ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Dolenni allanol

  • Mae UK Health Careers yn ffynhonnell wybodaeth ar gyfer pob agwedd ar benderfyniadau gyrfa.
  • Gall aelodau’r BMA dderbyn gwasanaethau gyrfaoedd meddygol yn cynnwys cyfarwyddyd gyrfaoedd i unigolion a gweminarau gyrfaoedd.
  • Mae BMJ Careers yn darparu llyfrgell ar-lein o erthyglau chwiliadwy am lawer o agweddau ar yrfaoedd meddygol.
  • Tudalen digwyddiadau gyrfaoedd meddygol y DU.
  • Ewch i wefan y Coleg Brenhinol ar gyfer eich arbenigedd.

Mae nifer cynyddol o hyfforddwyr gyrfaoedd meddygol annibynnol. Rydym yn awgrymu eich bod yn chwilio ar Google neu’n edrych ar twitter am opsiynau ar gyfer hyfforddiant gyrfaoedd wyneb yn wyneb neu o bell.