Neidio i'r prif gynnwy

Ar gyfer hyfforddwyr

Llun o dogfennau

Mae ymgynghorwyr, goruchwylwyr addysgol a chyfadrannau lleol yn chwarae rhan allweddol drwy helpu hyfforddeion i ystyried a phenderfynu ar yrfaoedd:

  • Mae safon “Hyrwyddo Rhagoriaeth” y Cyngor Meddygol Cyffredinol (R3.2) yn datgan bod rhaid i hyfforddeion "gael mynediad at gyngor a chymorth gyrfaoedd".  Mae addysgwyr sy’n darparu cymorth gyrfaoedd yn gallu defnyddio hyn hefyd fel tystiolaeth ar gyfer cymhwyster Cydnabod Hyfforddwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Maes 6: Arwain Datblygiad Personol a Phroffesiynol

  • Mae’r Cwricwlwm Sylfaen yn cyfarwyddo meddygon F1/2 i "drafod sut i wireddu uchelgeisiau gyrfa â goruchwyliwr addysgol"

Mae’r dudalen hon yn darparu adnoddau, canllawiau ac offer i’ch helpu i gael darlun llawn o’r dewis presennol o yrfaoedd meddygol ac i strwythuro’ch sgyrsiau â hyfforddeion am yrfaoedd.  Mae’r tabiau eraill ar y tudalennau Gyrfaoedd yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau, dolenni ac adnoddau (Chwilio a Chynllunio, Swyddi a Cheisiadau, Cyfarwyddyd Gyrfaoedd).

Ble rydych chi yn y maes cymorth gyrfaoedd?  Gweler y Canllaw Dewisiadau Cymorth Gyrfa – cliciwch ar rôl i weld pwy fydd yn gallu helpu orau i gwrdd â gwahanol anghenion gyrfa.  Bydd y fideo byr hwn hefyd yn eich helpu i wybod am y bobl a’r adnoddau gorau i gynorthwyo hyfforddeion, yn ôl a ydynt wedi Penderfynu ar eu cynllun gyrfa, yn Ystyried opsiynau neu’n Ailfeddwl am eu gyrfa.

Os ydych yn dymuno i ni siarad â hyfforddai sydd ag angen cael sgwrs ddiduedd am yrfaoedd, yn eich barn chi, gallwch ddarllen ein canllaw ar Gyfeirio neu Atgyfeirio Hyfforddai i Wasanaeth Gyrfaoedd. Gall gysylltu â ni’n uniongyrchol yn pgmedicalcareers@cardiff.ac.uk ac, os yw’n dymuno, gall anfon gwybodaeth gefndir atom ar y ffurflen gais hon.

Adroddiadau allweddol

  • Gallwch gael gwybod beth mae data’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ei ddangos i ni am lwybrau gyrfa meddygol wrth iddynt ddilyn hyfforddiant

  • Amrywiaeth o astudiaethau gan uned ymchwil feddygol y DU ar agweddau ar yrfaoedd meddygol, yn cynnwys astudiaethau hydredol o gohortau. Mae gennym lyfryddiaeth gyflawn o'r holl bapurau a gyhoeddwyd gan y Grŵp Ymchwil Gyrfaoedd Meddygol.

  • Gallwch weld y gwaith y mae’r MSC yn ei wneud i hybu’r agenda ar ehangu cyfranogiad drwy ei Gynghrair Dethol

Offer sgwrsio am yrfaoedd

  • Llinell amser penderfynu ar yrfa – mae’n hybu myfyrio strwythuredig am benderfyniadau yn y gorffennol: Llinell amser gyrfa

  • Pecyn offer gyrfaoedd – mae’n helpu i ganolbwyntio ar y penderfyniadau nesaf: Pecyn offer gyrfaoedd

  • Gwthio neu dynnu – mae’n hybu myfyrio am y ffactorau sy’n dylanwadu ar y syniadau ar gyfer gyrfa ar y pryd: Gwthio neu dynnu

  • Profforma myfyrio am yrfa – mae’n helpu i arwain myfyrwyr a hyfforddeion i fyfyrio am swyddi neu leoliadau: Cofnodi mewnwelediadau gyrfa

Dolenni allanol ar gyfer cymorth gyrfaoedd

  • Gwefan gyrfaoedd iechyd: pob agwedd ar yrfaoedd meddygol a gyrfaoedd yn y GIG yn y DU, gydag adran gynhwysfawr ar gyfer meddygon