Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd meddygol ôl-raddedig

myfyrwyr meddygol

Rydym yn gwybod bod llawer o Feddygon bellach yn chwilio am yrfaoedd hyblyg yr un fath â llawer o broffesiynau eraill ac felly rydym wedi datblygu'r tudalennau gwe yma i'ch helpu i'ch cefnogi drwy eich nodau gyrfa tymor byr, canolig a hir.

Er mwyn rhoi gyrfaoedd meddygol yn eu cyd-destun a'ch helpu i ddeall y broses rydym wedi datblygu'r tudalennau gwe o amgylch y model gyrfaoedd canlynol:

  • Hunanasesiad (cymryd hanes)
  • Archwilio gyrfa (arholiad ac opsiynau)
  • Gwneud penderfyniadau (ffurfio diagnosis manwl)
  • Gweithredu'r cynllun (yn dilyn drwy'r cynllun triniaeth)

Model "Roads to Success" (Elton, C. & Reid, J., 2009)

Meddygon prysur ydych chi, ac rydym yn sylweddoli nad oes gennych lawer o amser weithiau i ystyried eich opsiynau, yn aml mae angen gwneud penderfyniadau'n gyflym ac felly rydym wedi cynnwys rhai adnoddau defnyddiol iawn i gwmpasu pob ongl: i'r rhai sydd eisoes wedi Penderfynu ar eich llwybr gyrfa, y rhai sy'n Archwilio pob opsiwn neu Ailfeddwl am eich gyrfa.