Neidio i'r prif gynnwy

Meddygon Wcreinaidd

Cefnogi meddygon Wcreinaidd i ymuno â #TeamNHSWales

 

Mae ein teimladau'n parhau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel yn yr Wcráin.

Rydym yn ymwybodol bod rhai o'n cydweithwyr meddygol Wcranaidd wedi ymuno â ni yma yng Nghymru, a hoffem gymryd y cyfle hwn i estyn croeso cynnes i chi. 

Os ydych yn feddyg o'r Wcráin sydd â statws ffoadur a hoffai ymarfer yng Nghymru (y DU), bydd yr wybodaeth yn ein hadran 'Cyngor i Feddygon Ffoaduriaid' yn eich helpu i ddod o hyd i'ch ffordd drwy'r broses.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i #TeamNHSWales.