Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd i'r gwaith

Mae nifer o resymau pam mae pobl yn cymryd seibiant gyrfa. Os ydych chi’n ystyried dychwelyd i’r gwaith, ar ôl magu teulu er enghraifft neu ofalu am aelod o’r teulu yn dilyn anafiad, bydd y wybodaeth ganlynol o fudd i chi wrth i chi ystyried eich opsiynau a beth y bydd rhaid i chi ei wneud i fwrw ymlaen yn eich gyrfa.

Mae’n bwysig paratoi

Ymchwil

Cymerwch yr amser i ystyried eich opsiynau:

  • Ydych chi am fynd yn ôl at y rôl oeddech chi’n ei gwneud o’r blaen neu rôl debyg, neu fyddai’n well gennych chi her newydd?
  • Ydych chi’n chwilio am waith rhan amser neu lawn amser?
  • Pa mor bell ydych chi’n barod i deithio / pa mor bell allwch chi deithio?

Bydd ymchwilio i Rolau yn eich helpu i ganfod beth mae’r rôl yn gofyn amdano. Trwy wneud hyn byddwch yn osgoi gwneud cais am swyddi nad ydynt yn addas i chi. Ewch i’r adran rolau i bori trwy’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Diweddaru’ch sgiliau

Mae technoleg yn datblygu’n hynod o gyflym ac mae’n bosibl y byddai cymryd cwrs gloywi yn eich coleg lleol o fudd i chi, gan ei bod yn debygol bod cwmnïau naill ai’n defnyddio fersiynau mwy diweddar neu raglenni newydd sbon erbyn hyn.

Os ydych chi’n ystyried gyrfa iechyd lle mae angen gradd, mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau cwrs mynediad. Unwaith i chi sicrhau lle ar gwrs gradd sydd wedi ei gyllido gan y GIG, mae cymorth ariannol ar gael. Am ragor o wybodaeth a meini prawf eich hawl i gyllid, ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr.

Efallai roeddech chi’n nyrs, ymwelydd iechyd, bydwraig neu’n weithiwr proffesiynol perthynol i iechyd, ond mae’ch cofrestriad wedi dod i ben? Ewch i’r adran am Ddychwelyd i Ymarfer a darganfod sut y gallwch ddod yn ôl a pha gymorth sydd ar gael. 

Profiad

Peidiwch â thanbrisio’ch hunan; hyd yn oed os ydych chi wedi bod allan o’r farchnad swyddi dydy hynny ddim yn golygu nad oes gennych sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Meddyliwch am y pethau rydych chi’n eu gwneud bob dydd, fel rheoli amser, sgiliau trefnu ac yn y blaen. Cofiwch sôn am y profiadau a’r sgiliau a enilloch chi cyn i chi gymryd egwyl. Os yw’n well gennych gynnwys profiadau mwy diweddar, yna mae’n werth ystyried profiad gwaith a/neu wirfoddoli. Mae’r ddau yn edrych yn wych ar eich CV ac mae’n dangos eich bod wedi bod yn ddigon blaengar i ymchwilio i’r rôl/sector yn drylwyr. Ewch i’n tudalennau am Brofiad Gwaith a Gwirfoddoli am ragor o wybodaeth.

Gwneud cais am swyddi

Pan ddaw at lenwi’ch ffurflen gais, efallai y bydd yn werth trefnu apwyntiad i siarad ag ymgynghorydd gyrfa. Cofiwch greu cyfrif ar NHS Jobs i gael gwybod am swyddi gwag newydd. Mae cyngor defnyddiol ar NHS Jobs hefyd am sut i ysgrifennu cais llwyddiannus a sut i baratoi am gyfweliad. 

Dolenni defnyddiol: