Neidio i'r prif gynnwy

Athrawon, Ymgynghorwyr a Hyfforddwyr Gwaith

Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth i’w defnyddio mewn sesiynau gyrfaoedd a chyfarwyddyd i helpu unigolion i gynllunio eu gyrfa.   

Efallai y bydd yr adrannau canlynol o ddiddordeb arbennig ichi:

  • Mae tudalen Ein Rolau yn cynnwys gwybodaeth am yr ystod eang o rolau sydd ar gael ym maes iechyd.
  • Mae tudalen Cyrsiau yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol gyrsiau a fydd yn cefnogi’ch myfyriwr / cleient ni waeth pa lwybr y bydd yn ei ddewis.  Mae gwybodaeth hefyd ar y dudalen am gyllid am y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwahanol gyrsiau sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol.
  • Mae’r dudalen am waith yn cynnwys gwybodaeth am dâl/buddion, sut i ymgeisio am swyddi a phrofiad gwaith/gwirfoddoli.

Cwestiynau cyffredin athrawon, ymgynghorwyr gyrfa a hyfforddwyr gwaith

Dyma rai cwestiynau cyffredin mae athrawon, ymgynghorwyr gyrfa a hyfforddwyr gwaith yn eu gofyn inni.

Fyddai’n bosibl i rywun o’r GIG ddod i mewn i’r ysgol/coleg/canolfan byd gwaith a siarad am yrfaoedd â fy myfyrwyr/cleientiaid? Fyddai’n bosibl i rywun gynrychioli’r GIG yn fy nigwyddiad gyrfaoedd?

Yn anffodus, does gan Gyrfaoedd GIG Cymru ddim yr adnoddau i fynd i ddigwyddiadau mewn ysgolion neu golegau unigol.  Fodd bynnag, os anfonwch chi e-bost atom ni, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â’ch sefydliadau GIG lleol i weld a allan nhw anfon cynrychiolydd.

***Byddwch yn ymwybodol y bydd angen chwe wythnos o rybudd ar ein cydweithwyr er mwyn gallu delio â’ch ymholiad.***

Sut y gall fy myfyrwyr ennill profiad gwaith yn y GIG?

Mae rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ac eraill gael profiad o weithio ym maes gofal iechyd yn her i rai sefydliadau yn y GIG. Mae ansawdd gofal a chyfrinachedd cleifion yn hollbwysig, felly mae’n rhaid ystyried yn ofalus ble y gellir cynnig lleoliadau profiad gwaith, amser cynnal y lleoliadau hyn a beth y gellir ei gynnwys ynddynt.  Os ydych chi’n gyfrifol am drefnu profiad gwaith, efallai y bydd ein hadran am Brofiad Gwaith o fudd ichi.

Yn anaml iawn y mae angen i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau nyrsio, meddygaeth a phynciau meddygol eraill fod â phrofiad o weithio yn y GIG.  Yn hytrach, maen nhw fel arfer yn chwilio am brofiad o waith gofalu neu waith gofal cwsmeriaid.  Os yw’ch myfyrwyr / cleientiaid yn chwilio am ryw fath o brofiad o ofalu, yna mae’r GIG ond yn un dewis ymysg nifer.  Mae yna ddarparwyr gofal iechyd annibynnol (gan gynnwys ysbytai preifat, clinigau, cartrefi gofal a meithrinfeydd) ynghyd ag amrywiaeth o elusennau.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill profiad ac mae’n gyfle i unigolion weld a ydynt yn addas ar gyfer math penodol o waith.  Mae hefyd yn ffordd dda o godi hyder pobl ac mae modd iddynt roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Ewch i’n hadran am Wirfoddoli am ragor o wybodaeth.

Sut y galla i helpu fy myfyrwyr/cleientiaid sy’n cymryd/bwriad cymryd gradd ac sydd am weithio yn y GIG ar ôl gorffen?

O ran gwybodaeth am yrfaoedd penodol, mae llawer o wybodaeth yn yr adran am rolau.  Bydd unrhyw un sy’n gwneud cais am swydd neu swydd hyfforddiant, naill ai yn y GIG neu mewn sefydliad sy’n darparu gwasanaethau ar ran y GIG, yn gorfod dangos sut mae’n rhoi gwerthoedd y GIG ar waith bob dydd.  Bydd hyn hefyd yn berthnasol wrth wneud cais am le ar gwrs prifysgol lle mae rhaid cwblhau lleoliadau yn y GIG.

Pa gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr?

Yng Nghymru, mae cyrsiau iechyd ar gyfer nyrsio, proffesiynau perthynol i ofal iechyd a gwyddorau gofal iechyd wedi eu cyllido.  Fodd bynnag, mae amod i hynny. Bydd rhaid i bob ymgeisydd ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau ei gwrs.  Ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr am ragor o wybodaeth ynghylch:

  • Hawl i gyllid
  • Cwestiynau cyffredin am oblygiadau'r newidiadau i Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru
  • Sut i gysylltu â ni os bydd angen rhagor o gymorth arnoch

Caiff prentisiaethau yn y sector iechyd eu hysbysebu ar wefan NHS Jobs. Caiff prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd eu hysbysebu ar wefan Gyrfa Cymru hefyd.

Ydych chi’n chwilio am ffynonellau o wybodaeth ynghylch gyrfaoedd iechyd y tu allan i Gymru?

Mae pob un o’r tair gwlad yn y DU yn darparu gwybodaeth am yrfaoedd ym maes iechyd mewn ffyrdd gwahanol.  Dyma restr o wefannau a manylion cyswllt perthnasol:

Lloegr:

Iwerddon:

Yr Alban: