Er mwyn cadw’ch cofrestriad â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn gyfredol, mae rhaid i nyrsys, bydwragedd a nyrsys ICCA gwblhau Proses Ail-ddilysu’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ail-ddilysu yw’r broses newydd y mae rhaid i bob nyrs a bydwraig yn y DU ei dilyn er mwyn cadw eu cofrestriad â’r Cyngor yn gyfredol. Mae esboniad llawn o’r broses ar wefan y Cyngor.
Er mwyn ail-gofrestru/ail-ddilysu am y tair blynedd nesaf, mae rhaid i’r sawl sydd ar y gofrestr ddangos y canlynol:
Os nad ydych chi wedi cwblhau’r uchod, ond os hoffech chi ddychwelyd i’ch proffesiwn, bydd yn rhaid ichi gwblhau’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer.
Ni waeth am ba mor hir rydych chi wedi bod allan o’r proffesiwn, bydd y rhaglen Dychwelyd i Ymarfer yn rhoi’r sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch chi er mwyn ymarfer yn hyderus.
Am gyngor ynghylch eich amgylchiadau personol, cysylltwch â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Os oes angen cyllid, mae rhaid i’r sawl sy’n dychwelyd sicrhau bod Gwasanaethau Gweithlu, Addysgu a Datblygu'r Bartneriaeth Cydwasanaethau yn cydsynio cyn ymgymryd â’r gweithgareddau diweddaru. Gellir gwneud hyn naill ai trwy’r unigolyn sy’n dymuno dychwelyd neu drwy Reolwr y Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth. Er mwyn cael caniatâd, e-bostiwch nwssp.wedsedcommissioning@wales.nhs.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Os cewch chi eich derbyn i wneud cwrs dychwelyd i ymarfer, dylech chi ddisgwyl y canlynol:
Am ragor o wybodaeth am y prifysgolion sy'n cynnig y rhaglen yng Nghymru, am ofynion mynediad a sut i wneud cais, dilynwch ar y dolenni canlynol:
Nyrsys ICCA a Nyrsio:
Bydwragedd:
Dylai ceisiadau am gymorth â chostau gofal plant gan y rhai sydd wedi sicrhau cyllid oddi wrth GIG Cymru gael eu gwneud yn uniongyrchol i Wasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr abm.sas@wales.nhs.uk.
Fel y gallwn ni ateb eich ymholiad mor gyflym â phosibl, sicrhewch eich bod wedi cynnwys y wybodaeth ganlynol: