Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau Mynediad

Beth yw cwrs mynediad?

Mae’r Diploma Mynediad at Addysg Uwch yn gymhwyster sy’n paratoi pobl, sydd heb gymwysterau traddodiadol, i astudio yn y brifysgol.  Bydd myfyriwr sydd wedi cwblhau’r Diploma Mynediad at Addysg Uwch â sgiliau astudio o’r un safon â rhywun sydd newydd gwblhau Safonau Uwch, a bydd yn fwy na pharod i fynd i’r Brifysgol.

Ai cwrs mynediad yw’r cwrs iawn imi?

Mae cyrsiau mynediad yn cynnwys rhyw 16 awr o gyswllt bob wythnos fel arfer dros gyfnod o flwyddyn (Medi - Mehefin), heb gynnwys gwaith cartref. Dylech chi drefnu lle yn gynnar gan fod y cyrsiau yn boblogaidd iawn, ac maent fel arfer yn llawn cyn mis Medi.

Sut alla i weithio a gwneud cwrs mynediad ar yr un pryd?

Os na allwch chi astudio cwrs mynediad yn ystod y dydd oherwydd eich bod yn gweithio, mae astudio’n rhan-amser yn opsiwn.

Pa gwrs mynediad y dylwn i ei ystyried?

Y llwybr mwyaf poblogaidd i gwrs gofal iechyd ymysg pobl sydd dros 21 oed yw cwrs mynediad iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae pob prifysgol yn gosod ei gofynion mynediad ei hun, felly mae’n werth gwirio’r wefan neu gysylltu â ‘r adran dderbyniadau / prif diwtor yn y brifysgol yr hoffech chi wneud cais iddi i ofyn pa gymwysterau y byddant yn eu derbyn.

Sut ydw i’n gwneud cais?

Mae gofynion mynediad a phrosesau ymgeisio yn cael eu pennu gan golegau / darparwyr cwrs unigol ac felly gallant amrywio. Ewch i wefan Mynediad i Addysg Uwch am ragor o wybodaeth ac i weld lle mae’r cyrsiau’n cael eu cynnig.

Dolenni defnyddiol: