Enw'r Fenter |
Trosolwg |
Cysylltwch |
Hyfforddiant Sefydlu ar y Cyd ar gyfer Staff Cymorth Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Peilot yn ardal Hywel Dda. Yn cefnogi gweithlu hyblyg a throsglwyddadwy drwy gyflwyno rhaglen sefydlu sy'n diwallu anghenion gweithwyr cymorth iechyd a gofal cymdeithasol | Liz.Hargest@wales.nhs.uk |
Datblygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Cymdeithasol | Uwchsgilio'r gweithlu cymorth o fewn darpariaeth gofal cymdeithasol i ofalu am anghenion gofal iechyd cynyddol unigolion sy'n derbyn cymorth gofal cymdeithasol |
|
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ar Golli Clyw a Dementia | Bydd yn cefnogi'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi anghenion iechyd a gofal yr unigolion hynny sydd â diagnosis o ddementia yn well a hefyd wedi colli eu clyw | Liz.Hargest@wales.nhs.uk |
Ymwybyddiaeth o Atal a Rheoli Heintiau | Adnodd addysgol i atgyfnerthu arfer gorau o ran atal a rheoli heintiau ar gyfer staff ac ymwelwyr yn y lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol | Lisa.bassett3@wales.nhs.uk |
Hyfforddiant Gwirio Marwolaeth | Pecyn hyfforddi sy'n galluogi cofrestryddion uwchsgilio mewn cartrefi nyrsio/gofal i gadarnhau marwolaeth preswylydd yn hytrach na galw ar meddyg teulu neu'r AP, mae hyn yn darparu gofal mwy amserol a chyfannol i'r preswylydd a'i deulu ac yn golygu y gall y meddyg teulu neu'r AP barhau i ddarparu gofal i gleifion y mae angen eu sylw arnynt | Gail.Harries-Huntley@wales.nhs.uk |
Canllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan | Cafodd y canllawiau dirprwyo eu hadnewyddu mewn partneriaeth â Gofal Cymdeithasol Cymru. Maent yn rhoi arweiniad i staff ar bob lefel ar ddirprwyo a derbyn agweddau ar waith. Mae hyn yn cefnogi datblygiad staff ac yn rhoi lle i fwy o staff uwch weithio i frig eu cwmpas ymarfer | |
Canllawiau Dirprwyo Cymru Gyfan - Astudiaeth Achos a Gwerthuso |
Astudiaeth achos a gynhaliwyd gan ABUHB i adolygu arferion dirprwyo cyfredol a nodi cyfleoedd i wella arferion dirprwyo yn unol â chanllawiau Cymru Gyfan ar gyfer dirprwyo | Angela.Palfrey@wales.nhs.uk |
Gwneud Penderfyniadau Clinigol Gwell | Yn cefnogi penderfyniadau proffesiynol lle mae'r pwyslais ar wella perthnasoedd ar bob lefel. Mae'r dull hwn yn cynorthwyo rhesymu ynghylch asesu risg a dealltwriaeth o risg gymharol, gan helpu gweithwyr proffesiynol i wneud penderfyniadau sy'n diogelu ymreolaeth a chyfrifoldeb personol y bobl y maent yn gweithio gyda nhw. Drwy ymgymryd â'r hyfforddiant hwn, bydd timau iechyd a gofal yn fwy hyderus i gymryd rhan mewn sgyrsiau medrus, grymusol o fewn ac ar draws timau, a chyda theuluoedd, gofalwyr ac arweinwyr, gan leihau pryder a dibyniaeth seicolegol ar wasanaethau. Mae'n canolbwyntio ar ganlyniadau i bobl, gan gydnabod yr angen am lwybrau a phrosesau gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywio penderfyniadau, mae'n annog pobl i beidio â glynu'n gaeth at lwybrau sy'n seiliedig ar gyflwr ac ymagwedd sy'n addas i bawb at ddarparu gofal. | Gail.Harries-Huntley@wales.nhs.uk |