Rydym yn ymgynghori ar gamau allweddol i ffurfio sylfeini'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SWPPC). Byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad drwy lenwi'r ffurflenni isod:
Fel rhan o ymgysylltiad ehangach yr ymgynghoriad, gwahoddir staff gofal sylfaenol i gymryd rhan yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (EIA)
Fel arall, gallwch e-bostio eich atebion at heiw.primarycarewfp@wales.nhs.uk
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg am pump wythnos rhwng 6 Medi a hanner nos ar 6 Hydref 2023.
Nid yw'n ofynnol i chi roi eich enw nac unrhyw wybodaeth a fyddai'n eich adnabod wrth lenwi’r e-ffurflen yr ymgynghoriad.
Camau drafft ar gyfer ymgynghoriad fformat dogfen Word
Gwybodaeth gefndirol
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi ymgysylltu'n sylweddol â rhanddeiliaid o bob maes gofal sylfaenol yn ogystal ag ymchwil helaeth. Mae hyn wedi llywio a llunio'r camau gweithredu arfaethedig. Rydym hefyd yn adolygu gwybodaeth am y gweithlu sydd ar gael fel bod gennym farn glir ar y blaenoriaethau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw dros y pum mlynedd nesaf.
Nawr, rydym am 'brofi' yn ffurfiol y camau drafft gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod wedi nodi atebion a fydd yn cael yr effaith fwyaf.
Mae'r camau yr ydym yn ymgynghori arnynt yn berthnasol i bob proffesiwn contractwyr. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr deintyddol proffesiynol bydd cyfle i ymgynghori ar rai camau gweithredu deintyddol penodol. Bydd hyn yn bwydo i mewn i'r cynllun gweithlu strategol ehangach.