Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth gefndirol

Rydym wedi creu tair dogfen ryngweithiol Page Tiger i ddarparu gwybodaeth allweddol i chi mewn cysylltiad â datblygiad y cynllun hwn mewn tri maes allweddol. Cliciwch ar y penawdau isod i ddarganfod mwy:


Adran 1: Cyflwyniad i ddatblygiad y cynllun hwn

Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o ran pam rydym yn datblygu'r cynllun, sut mae'r cynllun yn cyd-fynd â rhaglenni gwaith allweddol eraill ac yn manylu ar yr amserlen a chwmpas y prosiect a nodwyd.

Adran 2: Gwybodaeth Gyd-destunol

Mae gan Gymru gyfeiriad polisi cyson ac uchelgais i ddarparu rhwydwaith cryf o wasanaethau gofal sylfaenol ers 2010 pan ‘Cymru Iachach: Cyhoeddwyd Gosod y Cyfeiriad' gyntaf. Mae’r adran hon yn amlinellu’r cyfeiriad strategol cyffredinol ac yn cynnwys y dogfennau polisi allweddol sy’n cefnogi datblygiad y cynllun hwn.

Adran 3: Adolygiad Thematig o'r llenyddiaeth

Rydym wedi adolygu amrywiaeth o ddeunydd ysgrifenedig gan gynnwys adroddiadau gan y Llywodraeth, cyrff proffesiynol, melinau trafod a sefydliadau eraill er mwyn crynhoi themâu a materion allweddol y mae angen i'r cynllun fynd i'r afael â hwy. Mae'r adran hon yn manylu ar y prif yrwyr newid ac yn rhoi trosolwg cryno o'r heriau presennol o ran y gweithlu ym maes gofal sylfaenol; bydd adolygiad data manylach yn dilyn fel rhan o ddatblygiad y cynllun.


Gwelwch crynodeb o'r dogfennau allweddol sydd wedi llywio datblygiad y cynllun yma.

Ymwelwch â’n hadran Ymgysylltu sy’n amlinellu gyrwyr gweithlu’r dyfodol ac yn crynhoi’r materion ac adrannau allweddol rydym ni eisiau archwilio fel rhan o’n cyfnod ymgysylltu.