Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Gwyddor Gofal Iechyd Cymru

Dewch i ymuno â ni yn ein Cynhadledd wyneb yn wyneb Gwyddor Gofal Iechyd Cymru a gynhelir bob blwyddyn ym mis Mawrth yn ystod Wythnos Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd. 

 

Nid yw dyddiad a lleoliad Gwyddor Gofal Iechyd Cymru 2024 wedi’u cyhoeddi eto.

Ydych chi'n Wyddonydd Gofal Iechyd yng Nghymru? Ydych chi'n awyddus i gydweithio a rhannu heriau a syniadau gyda chydweithwyr ar draws Gwyddor Gofal Iechyd? Ydych chi'n chwilio am ble i fynd nesaf yn eich gyrfa, neu sut i gefnogi datblygiad eich cydweithwyr? 

Fel y gynhadledd wyddonol flynyddol ar gyfer pob Gwyddonydd Gofal Iechyd yn GIG Cymru, nod cynhadledd Gwyddor Gofal Iechyd Cymru yw tynnu sylw at y cryfder a ganfyddwn drwy gydweithio ar draws ein proffesiwn, ynghyd â rhannu llwyddiannau o’n gwasanaethau, tuag at ysgogi newid trawsnewidiol yn y GIG.

Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd cenedlaethol, yn cynnwys anerchiadau ysbrydoledig gan siaradwyr sy'n ymdrin â phob maes Gwyddor Gofal Iechyd, gweithdai diddorol, arddangosiadau poster ymchwil a gwella, a mwy.

Gweler agenda cynhadledd y llynedd ar waelod y dudalen we hon.

Siaradwyr y Gynhadledd

Oes gennych chi brofiad ac arbenigedd a allai fod o fudd i'ch cyfoedion? Beth am eu rhannu ac ennill cydnabyddiaeth am eich gwaith wrth ledaenu'ch dysgu?

Bydd cyflwyniadau llafar yn cael eu hagor pan gyhoeddir manylion cynhadledd 2024


Gwobrau Poster

A ydych chi wedi cyflwyno poster mewn cynhadledd arall yn ystod y 12 mis diwethaf, neu a oes gennych chi ddarn newydd o ymchwil neu wella gwasanaeth i’w arddangos? Croesewir cyflwyniadau gan bawb, gan gynnwys myfyrwyr a hyfforddeion. Bydd cyflwyniadau crynodeb o bosteri yn cael eu hadolygu yn erbyn y meini prawf dethol i'w harddangos yn y gynhadledd. Bydd pob poster sy’n cael ei arddangos yn cael ei gofrestru ar gyfer un o 2 wobr, i’w cyflwyno’n fyw yn y gynhadledd:

  • Gwobr Poster Ymchwil ac Arloesedd
  • Gwobr Poster Gwella Gwasanaeth a Thrawsnewid 

Bydd cyflwyniadau crynodeb o bosteri yn cael eu hagor pan gyhoeddir manylion cynhadledd 2024.


Adnoddau
Yn ystod y gynhadledd, byddwch hefyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adnoddau Gwyddor Gofal Iechyd a grëwyd gan y Rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd. Mae’r adnoddau hyn ar gael i’w defnyddio gan wasanaethau’r GIG, rhwydweithiau, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i hybu gyrfaoedd, digwyddiadau gwasanaeth a mwy. Mae’r adnoddau hefyd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar  dudalen Pecyn Cymorth Cyfathrebu'r Rhaglen Gwyddorau Gofal Iechyd.
 
Dolenni defnyddiol

Cliciwch y botymau isod i gael mynediad at wybodaeth ac adnoddau'r gynhadledd.