Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a Hyfforddiant Amlbroffesiynol ym maes Gofal Sylfaenol a Chymunedol

Beth yw gofal sylfaenol a chymunedol?

Mae gofal sylfaenol a chymunedol yn cyfeirio at wasanaethau gofal iechyd y mae cleifion yn aml yn eu derbyn yn gyntaf. Rhai enghreifftiau o hyn yw meddygon teulu (ymarfer cyffredinol), fferyllwyr cymunedol, deintyddion, ac optometryddion ymhlith eraill.

 

Gofal sylfaenol a chymunedol yn AaGIC

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn un o nifer o sefydliadau sy'n gyfrifol am weithredu Cymru Iachach. Dyma gynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Wrth wraidd hyn yw’r nod i gynnig gwasanaethau sy'n briodol i anghenion unigol pobl  ac sy'n cael eu darparu ar raddfa gofal sylfaenol a chymunedol.

Felly, mae ein timau'n gweithio i helpu

  • Deall pwy sy'n ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru
  • Cynorthwyo’r cyfraniad a wneir gan bawb
  • Gwerthuso pwy sydd yn man gorau i ddarparu gofal
  • Darparu cyfleoedd i bobl ehangu eu sgiliau a'u harbenigedd, waeth beth yw eu hymlyniad proffesiynol, pwy yw eu cyflogwr, neu eu lleoliad
  • Cryfhau'r addysg, yr hyfforddiant a'r datblygiad sydd ar gael i'r gweithlu gan ganolbwyntio ar wella sgiliau am gyrfa gyfan
  • Cynorthwyo iechyd a lles y gweithlu

 

Fframwaith Addysg a Hyfforddiant Amlbroffesiynol Cynradd a Chymunedol

Gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn datblygu Fframwaith Addysg a Hyfforddiant Cynradd a Chymunedol Amlbroffesiynol.

Mae hyn yn rhan hanfodol o'r broses ail-gychwyn ac adferiad ar ôl Covid-19 ac mae'n sylfaen i gyflwyno'r Rhaglen yn strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.

Ein nod yw:

  • Datblygu ac ehangu’r gweithlu amlbroffesiynol sy'n ategu'r Model Gofal Sylfaenol
  • Darparu hyfforddiant a datblygiad o ansawdd uchel i bob grŵp proffesiynol yn seiliedig ar safonau clir a chyson
  • Buddsoddi yn natblygiad cynaliadwy'r gweithlu Sylfaenol a Chymunedol i wella recriwtio a chadw.

 

 Rydym wedi ymgysylltu’n eang yn ôl y cynnig a fydd yn:

  • Sefydlu Uned Addysg a Hyfforddiant Sylfaenol a Chymunedol Amlbroffesiynol Cymru gyfan o fewn AaGIC, gan weithio ochr yn ochr â Deoniaethau presennol ac Addysg Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd i ddatblygu Academïau amlbroffesiynol ar draws y Byrddau Iechyd a fydd yn darparu’r ysgogiad i ddatblygu addysg a hyfforddiant ar raddfa leol.
  • Sefydlu fframwaith a safonau llywodraethu addysg cenedlaethol a fydd yn sicrhau darpariaeth o addysg a hyfforddiant teg a chyson ledled Cymru.
  • Datblygu a helaethu mecanweithiau i hyfforddi, datblygu a chynorthwyo addysgwyr a goruchwylwyr ar draws ystod o ddisgyblaethau yn unol â'r arferion gorau.
  • Ehangu a chyfnerthu lleoliadau clinigol ym maes gofal sylfaenol a chymunedol.
  • Ategu'r gwaith o gynllunio’r gweithlu ar draws gwasanaethau sylfaenol a chymunedol gan flaengynllunio rhaglenni addysg a hyfforddiant yn well.
  • Llywio'r gwaith o gomisiynu'r rhaglenni addysg a hyfforddiant ôl-raddedig ym maes gofal sylfaenol a chymunedol drwy'r Cynllun Addysg a Hyfforddiant blynyddol, sy'n un o swyddogaethau statudol AaGIC.

 

Uned Addysg a Hyfforddiant Amlbroffesiynol AaGIC

Yn ystod 2022, mae uned newydd yn cael ei sefydlu o fewn AaGIC. Bydd yr uned newydd yn gyfrifol am ddarparu addysg a hyfforddiant amlbroffesiynol mewn gofal sylfaenol a chymunedol.

Bydd yn:

  • Gweithio ochr yn ochr â Deoniaethau presennol a'n swyddogaeth Addysg Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol i gynllunio a darparu rhaglenni cenedlaethol (bydd ein rhaglen hyfforddi genedlaethol gyntaf yn canolbwyntio ar Nyrsio Mewn Ymarfer Cyffredinol)
  • Gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd i sefydlu academïau
  • Darparu adnoddau er mwyn i Academïau osod rhwydwaith mewnol
  • Gosod safonau fel bod gan ddysgwyr a myfyrwyr fodd teg o gyrchu addysg a hyfforddiant o ansawdd
  • Datblygu cynlluniau gweithlu cenedlaethol er mwyn sicrhau i'r dyfodol bod gweithwyr proffesiynol medrus ar gael
  • Cynorthwyo datblygiad o dimau amlbroffesiynol drwy addysg a hyfforddiant.
  • Comisiynu addysg israddedig ac ôl-raddedig a gweithio ar y cyd â sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i ddatblygu rhaglenni hyfforddi a chyrsiau sy'n diwallu anghenion y gweithlu mewn rolau clinigol ac anghlinigol gan gynnwys cyfleoedd dysgu yn seiliedig ar waith
  • Ehangu capasiti lleoliadau clinigol ym maes gofal sylfaenol
  • Ategu'r gwaith o ddatblygu modelau gweithlu newydd trwy ailgynllunio rolau
  • Datblygu offer ac adnoddau i gyfoethogi datblygiad y gweithlu gan gynnwys fframweithiau cymhwysedd a llwybrau gyrfa.

 

Academïau

Bydd Academi ar gyfer bob Bwrdd Iechyd yn unigol a fydd yn cydlynu ac yn traddodi hyfforddiant ac addysg.

Bydd academïau'n gweithio'n agos gyda'r Uned Amlbroffesiynol trwy rwydwaith, arweinwyr y gweithlu lleol, a'r gweithlu o fewn gofal sylfaenol a chymunedol.

Bydd Academïau’n gyfrifol am y canlynol:

  • Asesu anghenion addysg a hyfforddiant lleol
  • Cynorthwyo timau amlbroffesiynol lleol i weithio yn effeithiol ar y cyd i sicrhau  potensial lawn drwy addysg a hyfforddiant
  • Cynllunio anghenion gweithlu'r dyfodol i lywio comisiynu addysg genedlaethol a lleoliadau hyfforddi
  • Darparu cymorth i sicrhau bod modd i staff gofal sylfaenol a chymunedol ddatblygu eu sgiliau
  • Datblygu’r gallu lleol i ehangu amgylcheddau hyfforddi a sicrhau rhagor o addysgwyr.

Bydd rhagor o wybodaeth am academïau ar gael ar ein gwefan yn fuan.