Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol

Mae’r cynllun gweithlu iechyd meddwl strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Wedi’i ddatblygu gennym ni a Gofal Cymdeithasol Cymru, nod y cynllun yw datblygu sgiliau a chapasiti ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i gynyddu cymorth i’r rhai mewn angen.

Ei nod yw gwella gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal â mynd i'r afael â heriau a phwysau ar wasanaethau i bobl ag anghenion iechyd meddwl difrifol.

 
Datblygu'r cynllun

Fe wnaethon ni wrando ar y bobl sy'n darparu ein gwasanaethau iechyd meddwl i'n helpu ni i ddeall beth sy'n bwysig iddyn nhw. Buom hefyd yn edrych ar ymchwil, data’r gweithlu a rhagolygon ar gyfer y dyfodol i greu’r cynllun.

Mae gan y cynllun 33 o gamau gweithredu allweddol ar draws saith thema.

Buom yn siarad â’r bobl sy’n darparu ac yn defnyddio ein gwasanaethau iechyd meddwl, i’n helpu i ddeall beth sy’n bwysig iddynt, gan gynnwys:

  • pobl sydd wedi cael profiad byw o iechyd meddwl
  • cyflogwyr
  • undebau llafur
  • cyrff proffesiynol
  • colegau brenhinol
  • llywodraeth

Buom hefyd yn edrych ar ymchwil, data’r gweithlu a rhagolygon ar gyfer y dyfodol i greu’r cynllun. Mae ganddo 33 o gamau gweithredu allweddol ar draws saith thema.

 

Dyfynnu:

Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a Gofal Cymdeithasol Cymru (2022), Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Adnoddau